Idwal Foel ab Anarawd (bu farw 942), Brenin Gwynedd o 916 hyd ei farwolaeth.
Idwal Foel | |
---|---|
Ganwyd | 885 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 942 Teyrnas Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Anarawd ap Rhodri |
Mam | Nn |
Priod | Anhysbys |
Plant | Iago ab Idwal, Ieuaf ab Idwal, Rhodri ab Idwal Foel, Meurig ab Idwal Foel |
Llinach | Llinach Aberffraw |
Etifeddodd Idwal orsedd Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Anarawd ap Rhodri, yn 916. Bu'n rhaid iddo dalu teyrnged i Aethelstan Brenin Lloegr. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn 942.
Gellid disgwyl y byddai teyrnas Gwynedd yn awr yn cael ei rhannu rhwng meibion Idwal, Iago ab Idwal ac Idwal, a elwir yn y croniclau yn Ieuaf ab Idwal. Fodd bynnag ymosododd Hywel Dda, Brenin Deheubarth ar Wynedd a gyrru meibion Idwal ar ffo. Ar ôl marw Hywel yn 950, llwyddodd meibion Idwal i gael y deyrnas yn ôl.
Idwal Foel Ganwyd: ? Bu farw: 942 | ||
Rhagflaenydd: Anarawd ap Rhodri | Brenin Gwynedd 916–942 | Olynydd: Hywel Dda |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Idwal Foel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.