Bardd, newyddiadurwr ac argraffydd o Islaw'r Dref, ardal orllewinol blwyf Dolgellau yn enedigol, oedd Henry Lloyd (23 Mehefin 1870 – 14 Medi 1946).
Ei enw barddol oedd ap Hefin.
Henry Lloyd | |
---|---|
ap Hefin 1914 | |
Ffugenw | ap Hefin |
Ganwyd | 23 Mehefin 1870 Dolgellau |
Bu farw | 14 Medi 1946 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, argraffydd |
Mae'n cael ei gofio'n bennaf fel awdur geiriau'r emyn dirwestol I bob un sy'n ffyddlon, emyn sydd, yn fwyaf eironig, yn cael ei ganu'n amlach mewn tafarnau a chlybiau na mewn capeli Cymru bellach.
Ganwyd ap Hefin yn Nhyddyn Ifan, Islaw'r Dref, yn fab i David Lloyd, a Margaret (née Owen) ei wraig. Derbyniodd addysg elfennol yn ysgol Arthog.
Ym 1896 priododd â Sarah Ann Gravell a chawsant bedwar o blant. Bu Sarah farw ym 1919.
Roedd yn hen ewyrth i'r bardd Eingl-Gymreig David Annwn (David James Jones g 1953).
Cafodd ei brentisio yn swyddfa'r Dydd, Dolgellau, un o argraffdai Cymraeg pwysicaf Cymru'r cyfnod, wedi darfod ei brentisiaeth symudodd i Aberdâr ym 1891 i weithio fel cysodydd yn argraffdy'r Darian. Wedi dwy flynedd yn gweithio i'r Darian symudodd i argraffdy'r Tyst ym Merthyr Tudful, cyn dychwelyd i'r Darian ym 1902. Yn ddiweddarach sefydlodd ei fusnes argraffu ei hun a pharhau ynddi nes ymddeol yn 1940. Bu'n is olygydd Y Tyst ac yn olygydd Y Darian. Golygodd golofn farddol Y Darian am ugain mlynedd.
Bu'n bregethwr cynorthwyol yn yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaid) am dros hanner canrif ac yn ddarlithydd poblogaidd mewn cyfarfodydd llenyddol a chrefyddol.
Roedd ap Hefin yn fardd a llenor poblogaidd ac yn enillydd llawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol; bu'n athro cerdd dafod. Mae'n cael ei gofio'n bennaf bellach am ei sloganau cynganeddol i hysbysebu cwmni diodydd dirwestol Corona, Thomas ac Evans, Porth y Rhondda a'i emyn dirwestol I bob un sydd ffyddlon a genir ar y dôn Rachie fel arfer
Corona yw coron pob Croeso
Mwyn yw dŵr yn mynd i waered,- a mwyn
Yw y medd yn cerdded
Os achos torri syched,
Y mwyna yw lemwnêd.
I bob un sydd ffyddlon
I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.
Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd.
Ysgrifennodd ap Hefin deunaw o lyfrau gan gynnwys
Bu farw ar 14 Medi 1946 yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Aberdâr.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Henry Lloyd (ap Hefin), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.