Iaith Affro-Asiaidd yn perthyn i ddosbarth yr Ieithoedd Tsiadaidd yw 'Hawsa.
Hi yw'r iaith Tsiadaidd gyda mwyaf o siaradwyr; tua 24 miliwn o siaradwyr iaith-gyntaf a tua 15 miliwn o siaradwyr ail-iaith. Mae'n perthyn i isddosbarth yr ieithoedd Tsiadaidd Gorllewinol.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Hausa–Gwandara |
Aelod o'r canlynol | Ieithoedd Affro-Asiaidd |
Enw brodorol | Hausa |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ha |
cod ISO 639-2 | hau |
cod ISO 639-3 | hau |
Gwladwriaeth | Benin, Bwrcina Ffaso, Ghana, Camerŵn, Niger, Nigeria, Togo, Tsiad |
Rhanbarth | Gorllewin Affrica |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Yr wyddor Arabeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Siaradwyr Hawsa fel mamiaith yw'r bobl Hawsa, neu Hawsaid, sy'n byw yn Niger a gogledd Nigeria, ond defnyddir yr iaith fel iaith gyffredinol mewn rhannau helaeth o Orllewin Affrica, fel Swahili yn Nwyrain Affrica. Mae'n iaith swyddogol yng ngogledd Nigeria ac yn iaith genedlaethol yn Niger.
Arferai'r iaith ddefnyddio'r wyddor Arabeg, ond mae'n awr wedi newid i'r wyddor Rufeinig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hawsa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.