Cerddor, actor ac ymgyrchydd Americanaidd Jamacaidd oedd Harry Belafonte (ganed Harold George Belafonte, Jr.; 1 Mawrth 1927 – 25 Ebrill 2023).
Roedd yn un o'r cantorion mwyaf poblogaidd erioed, a lysenwyd yn "Frenin Calypso," am iddo boblogeiddio'r arddull cerddorol Caribïaidd hwnnw yn rhyngwladol yn y 1950au. Mae caneuon mwyaf adnabyddus Harry Belafonte yn cynnwys y "Banana Boat Song", gyda'i chytgan enwog "Day-O," ac "Island in the Sun".
canwr, actor, diddanwr, ymgyrchydd hawliau sifil, ymgyrchydd heddwch, artist recordio, cyfansoddwr caneuon, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd gweithredol, dawnsiwr, gweithredydd gwleidyddol, actor llwyfan, actor ffilm
Gwobr Tony am Actor Nodwedd Gorau mewn Sioe-Gerdd, Gwobr Emmy, Gwobr Paul Robeson, Anrhydedd y Kennedy Center, Letelier-Moffitt Human Rights Award, Y Medal Celf Cenedlaethol, Marian Anderson Award, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Bishop John T. Walker Distinguished Humanitarian Service Award, Medal Spingarn, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Gwobr Dyneiddiaeth Jean Hersholt, Gwobr Four Freedoms, Rock and Roll Hall of Fame, Gwobr y Cadeirydd: NAACP, Order of Jamaica, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman, Gwobr y 'Theatre World'
Trwy gydol ei yrfa, roedd Belafonte yn ymgyrchydd amlwg dros hawliau sifil ac achosion dyngarol. Cymerodd ran yn ymgyrchoedd y Mudiad Hawliau Sifil yn yr Unol Daleithiau (UDA) i ennill hawliau sifil llawn i bobl duon y wlad ac roedd wedi beirniadu polisi tramor UDA. Bu'n feirniad amlwg o bolisïau gweinyddiaeth Bush, yn enwedig Rhyfel Irac. Un o'r dylanwadau mwyaf arno, yn gerddorol ac yn wleidyddol, oedd y canwr Paul Robeson.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Harry Belafonte, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.