Grŵp o gyfansoddion cemegol sydd wedi deillio o alcannau ac yn cynnwys un neu mwy o'r halogenau (fel Grŵp gweithredol) yw halogenoalcan (a elwir hefyd yn haloalcanau neu alcyl halidau).
Defnyddir halogenau yn fasnachol dan nifer o enwau cemegol a masnachol. Defnyddir halogenoalcanau fel deunydd gwrthdan, diffoddwyr tan, oeryddion, toddyddion ac ar gyfer deunydd fferyllol. Cyn i'r defnydd mawr mewn masnach, mae nifer o'r hydrocarbonau yma wedi profi i fod yn llygryddion peryglus. Mae gwacâd yr Haen osôn gyda clorofflwrocarbonnau yn enghraifft o hyn.
Gall haloalcanau gael eu henwi trwy ychwanegu rhagddodiad y halogen at enw llawn y alcan, er enghraifft: fflworomethan, cloroethan, bromopropan ac yn y blaen. Cewch chi hefyd enwi'r halogenau trwy defnyddio'r halogen fel olddodiad, ac yn rhoi enw'r grŵp alcyl cyn iddo, er enghraifft: methyl fflworid, ethyl clorid, propyl bromid ayb. Mae gyda rai halogenoalcanau enwau cyffredin sy'n cael eu defnyddio yn fwy na'r enwau systemig, e.e. clorofform yw'r enw cyffredin am dricloromethan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Halogenoalcan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.