Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (8 Mehefin 1932 - 5 Tachwedd 1991).
Gwenlyn Parry | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1932 Deiniolen |
Bu farw | 5 Tachwedd 1991 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr |
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref Deiniolen (neu Llanbabo), Gwynedd. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.
Ysgrifennodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.
Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).
Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy a roedd ganddynt ddau ferch, Sian Elin (ganwyd 1969) a Catrin Lynwen (ganwyd 1971). Yna fe briododd Ann Beynon a cafodd merch a mab o'i ail briodas.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwenlyn Parry, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.