Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn cleisiog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod cleisiog; yr enw Saesneg yw Marbled White, a'r enw gwyddonol yw Melanargia galathea.
Melanargia galathea | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Melanargia |
Rhywogaeth: | M. galathea |
Enw deuenwol | |
Melanargia galathea (Linnaeus, 1758) |
Gellir ei ganfod yn y rhan fwyaf o Ewrop, gogledd Affrica ac mor bell ag Iran. Drwy'r 20g cynyddwyd y nifer yng ngwledydd Prydain. Gweiriach yw ei fwyd ac mae Festuca rubra yn hanfodol i'w ddeiet.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gweirlöyn cleisiog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gweirlöyn cleisiog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.