Peiriannydd sifil a phensaer Ffrengig oedd Alexandre-Gustave Eiffel (15 Rhagfyr 1832 – 28 Rhagfyr 1923) sydd yn nodedig am ddylunio Tŵr Eiffel a saif ym Mharis.
Gustave Eiffel | |
---|---|
Ganwyd | Alexandre Gustave Bonickhausen dit Eiffel 15 Rhagfyr 1832 Dijon |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1923 Paris |
Man preswyl | rue Rabelais |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, pensaer, peiriannydd, Q10497074 |
Swydd | arlywydd |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Langley Gold Medal, Fourneyron prize |
llofnod |
Ganed yn Dijon, Teyrnas Ffrainc, a derbyniodd ei radd o'r École Centrale des Arts et Manufactures ym 1855. Bu'n arbenigo mewn strwythurau metal, yn enwedig pontydd. Dan ei arweiniad, codwyd pont haearn yn Bordeaux ym 1858, a fe ddyluniodd y Galerie des machines, pafiliwn haearn, dur a gwydr, ar gyfer Arddangosfa Paris ym 1867. Dyluniodd hefyd gromen symudol Arsyllfa Nice a fframwaith Cerflun Rhyddid.
Dyluniodd Eiffel y tŵr haearn gyr sy'n dwyn ei enw ar gyfer yr Exposition Universelle, ffair y byd ym Mharis ym 1889. O 1889 i 1930, Tŵr Eiffel oedd y strwythur wneuthuredig uchaf yn y byd.
Adeiladodd Eiffel labordy ar gyfer arbrofion erodynameg ar gyrion Paris a gweithiodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoes y labordy i lywodraeth Ffrainc ym 1921. Bu farw ym Mharis yn 91 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gustave Eiffel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.