Rhwydwaith dargludo trydan foltedd uchel yw'r Grid Trydan Cenedlaethol.
Mae'n cysylltu gorsafoedd ynni ac is-orsafoedd trydan i'r defnyddiwr yn yr Alban, Cymru a Lloegr. Ceir cysylltiadau o dan y môr i ogledd Iwerddon (HVDC Moyle), Gweriniaeth Iwerddon (EirGrid), Ynys Manaw (Isle of Man to England Interconnector) a Ffrainc (HVDC Cross-Channel).
Pan ddad-genedlaetholwyd y Bwrdd Trydan Canolog yn 1990, trosglwyddwyd ei perchnogaeth y Grid Cenedlaethol i'r National Grid Company plc, a newididodd ei enw'n ddiweddarach i National Grid Transco, ac wedyn i National Grid plc. Holltwyd y grid yn ddau yn yr Alban: un i dde a chanol yr Alban (SP Energy Networks, un o isgwmniau Scottish Power) a'r llall i ogledd yr Alban (SSE plc); o ran gweinyddu a goruchwylio, mae'r National Grid plc yn gyfrifol am yr Alban a gweddill gwledydd Prydain.
Mae rhan Cymru a Lloegr o'r grid yn cael ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Grid Cenedlaethol yn 'St Catherine's Lodge', Sindlesham, Wokingham yn Berkshire.
Mae'r diagram isod yn dangos rhwydwaith dosbarthu trydan sy'n debyg i'r grid cenedlaethol. Egni cinetig sydd ei angen i greu trydan. Y ffordd fwyaf effeithlon o gynhyrchu egni cinetig ar hyn o bryd yw i wresogi dŵr i greu ager sydd wedyn yn gyrru tyrbin. Wrth i tua 25,000 V o drydan adael y pŵerdŷ neu'r felin wynt mae'n troi'r foltedd i tua 400,000 V (400 kV) ar y peilonau uwchben oherwydd mae foltedd uchel yn lleihau'r cerrynt ac felly mae yna lai o wres yn cael ei golli. Mae 'newidydd gostwng' yn newid y foltedd i lawr i 230 V yn nes at gartrefi'r cwsmeriad.
Mae'r folteddau yn amrywio o wlad i wlad; yng ngwledydd Prydain mae oddeutu 240v.
Yng Nghymru mae'r grid dosbarthu trydan wedi cyrraedd ei uchafswm mewn rhai mannau o gefn gwlad, gyda nifer o gwmniau creu trydan yn cael eu gwrthod. Yn ôl Chris Blake, Cyfarwyddwr Cymoedd Gwyrdd, "Mae rhannau maith o ganolbarth a gorllewin Cymru a llefydd fel Dyfnaint a Chernyw a Gwlad yr Haf i bob pwrpas ar gau i adfywiad ynni adnewyddol am fod y grid yn llawn".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Grid Trydan Cenedlaethol (gwledydd Prydain), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.