Green, Green My Valley Now

Nofel gan Richard Llewellyn ydy Green, Green My Valley Now, a gyhoeddwyd ym 1975.

Hwn yw'r trydydd dilyniant, a'r olaf o drioleg, i'r nofel fwy adnabyddus How Green Was My Valley.

Green, Green My Valley Now
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRichard Llewellyn Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1975 Edit this on Wikidata

Plot

Mae Huw Morgan wedi dod yn ddyn busnes llwyddiannus ym Mhatagonia, gan sefydlu cwmnïau ffermio a chontractio sifil. Ond gyda'r chwa gwleidyddol yn newid yn yr Ariannin o dan lywodraeth milwrol, penderfynai ef a'i wraig Sûs ddychwelyd i Gymru.

Gan ei fed erbyn hyn yn ddyn cyfoethog, nid yw'n oedi dim yn gwario ffortiwn i brynu, adnewyddu ac ailwampio ffermdy hynafiaid ei wraig yng nghanolbarth Cymru, gan ei droi'n faenor crand. Mae ei gyfoeth sy'n ymddangos yn ddiben yn ei alluogi i brynu eiddo a cheisio troi'r dref fechan o'i chwmpas. Mae'n ymwybodol bod teimladau o genedlaetholdeb ymysg y trigolion, ond ni wnâi unrhyw ymgais i geisio eu deall.

Wedi i bobl glywed ei fod yno, mae'n cyfarfod â'i nith, Blodwen, merch Olwen ei chwaer, sy'n fyfyrwraig piano; mae'n ei noddi i astudio yn yr Almaen. Mae'n canfod fod disgynyddion ei frodyr a'i chwiorydd i gyd wedi allfudo i Awstralia, America, De Affrica a Seland Newydd.

Daw dynes i ymweld â Huw, sy'n honi ei bod yn wyres i'w frawd, Davy o Melbourne; daw a merch Ffrengig, Kiri, gyda hi. Datgelwyd mai ei dwyllo oedd hi, a'i bod yn derfysgwr IRA, yn chwilio am guddfan wledig er mwyn cynhyrchu bomiau. Mae Kiri yn Lydawes ac yn genedlaetholwraig a gwneuthurwraig bomiau yn ogystal.

Wedi i'w wraig farw, mae Huw yn priodi Teleri, sydd hefyd yn ddisgynnydd o Gymry Patagonia. Caiff y seremoni ei aflonyddu gan rhywun a oedd yn ceisio bradlofruddio, a oedd eisiau dial am i Kiri gael ei charcharu, ond mae ffrindiau Huw yn atal yr ymosodiad.

Wedi'r briodas mae Huw a Teleri yn gadael am fis mêl, gan fwriadu ymweld â Phatagonia. Cyn gwneud hyn mae Huw yn ymweld a'i gwmwd brodorol o'r diwedd, a fu'n ei osgoi gynt, ac mae'n synnu i ganfod fod y tipiau glo wedi diflannu a'r ardal wedi cael ei ail-dirweddu, a physgod wedi dychwelyd i'r afon a oedd wedi ei lygru ar un adeg.

Cyfeiriadau

  • Richard Llewellyn (1975). Green, Green My Valley Now. Michael Joseph Ltd.

Dolenni allanol

Tags:

1975How Green Was My ValleyNofelRichard Llewellyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

YstadegaethPornograffiRhanbarthau FfraincEagle EyeDoler yr Unol DaleithiauPisoDydd Gwener y GroglithTref1499Gertrude AthertonArwel GruffyddJimmy WalesTŵr LlundainCarreg RosettaCarly FiorinaPiemonteRhestr mathau o ddawns1855David Ben-GurionGmailAnna Gabriel i SabatéKlamath County, OregonDisturbiaUMCATrefynwyCyrch Llif al-AqsaLlyffantGwyddoniadurAgricolaRhyw geneuolAdeiladuCymruDeuethylstilbestrolrfeecAnuLee MillerOrganau rhyw365 DyddIfan Huw DafyddHecsagonDylan EbenezerZorroBashar al-AssadSiot dwad wynebMuhammad69 (safle rhyw)WordPress.comTeithio i'r gofodCaerfyrddinLlong awyrBe.AngeledPontoosuc, IllinoisDeslanosidEirwen DaviesThe CircusMadonna (adlonwraig)Gruffudd ab yr Ynad CochMathrafalSam Tân216 CCOasisDatguddiad IoanTîm pêl-droed cenedlaethol RwsiaWicipediaHafaliadRhosan ar WyCân i GymruBeach PartyLloegr🡆 More