Canwr-gyfansoddwr a pianydd Seisnig oedd Gary Brooker MBE (29 Mai 1945 – 19 Chwefror 2022), yn fwy adnabyddus fel sylfaenydd a phrif leisydd y band Procol Harum .
Gary Brooker | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1945 Homerton University Hospital |
Bu farw | 19 Chwefror 2022 o canser Surrey |
Label recordio | Mercury Records, Chrysalis Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | pianydd, canwr-gyfansoddwr, cerddor |
Adnabyddus am | A Whiter Shade of Pale |
Arddull | cerddoriaeth roc caled, roc blaengar, baroque pop, roc a rôl, jazz |
Gwobr/au | MBE |
Gwefan | http://www.procolharum.com/procolgb.htm |
Cafodd Brooker ei eni yn Ysbyty Hackney, Dwyrain Llundain , yn fab y cerddor Harry Brooker. Cafodd ei fagu yn Hackney, Bush Hill Park ac Edmonton. Ym 1954 symudodd y teulu i dref glan môr Southend-on-Sea, Essex, lle mynychodd Brooker Ysgol Uwchradd Westcliff i Fechgyn . Bu farw ei dad o drawiad ar y galon pan oedd Gary yn 11 oed. Ar ôl gadael yr ysgol, aeth ymlaen i Goleg Bwrdeistrefol Southend i astudio sŵoleg a botaneg. Gyda'i ffrind, y gitarydd Robin Trower, sefydlodd Brooker y Paramounts ym 1962.
Ym mis Gorffennaf 1968, priododd Brooker â Françoise Riedo ("Franky") o'r Swistir. Nid oedd gan y cwpl unrhyw blant.
Bu farw Brooker o ganser yn ei gartref yn Surrey, yn 76 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gary Brooker, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.