Fianna Fáil – An Páirtí Poblachtánach (Saesneg: Fianna Fáil – The Republican Party), y cyfeirir ati fel rheol fel Fianna Fáil (Rhyfelwyr Iwerddon), yw'r blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ac Iwerddon gyfan gyda tua 55,000 o aelodau.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | Democratiaeth Gristnogol, pro-Europeanism, Irish republicanism |
Label brodorol | Fianna Fáil |
Dechrau/Sefydlu | 16 Mai 1926 |
Sylfaenydd | Éamon de Valera |
Aelod o'r canlynol | Alliance of Liberals and Democrats for Europe Party, Union for Europe of the Nations |
Pencadlys | Dulyn |
Enw brodorol | Fianna Fáil |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Gwefan | https://www.fiannafail.ie/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i sefydlwyd ym 1926 fel plaid radicalaidd weriniaethol ganol-chwith, ond erbyn heddiw mae hi'n blaid ganolaidd. Mae wedi dominyddu bywyd gwleidyddol Iwerddon ers y 1930au. Hi yw'r blaid fwyaf yn Dáil Éireann er 1932, ac mae hi wedi ffurfio'r llywodraeth saith o weithiau ers creu'r weriniaeth ym 1921: 1932–48, 1951–54, 1957–73, 1977–81, 82, 1987–94, ac o 1997 hyd heddiw. Yn nhermau tymhorau pleidiau mewn llywodraeth yng ngwledydd Ewrop, mae Fianna Fáil yn ail i Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden yn unig. Micheál Martin yw ei harweinydd presennol.
Yn Senedd Ewrop, roedd Fianna Fáil yn aelod blaenllaw o'r grŵp Undeb dros Ewrop y Cenhedloedd, ond mae ei haelodaeth o'r grŵp gwleidyddol hwnnw wedi ennyn beirniadaeth o fewn ac y tu allan i'r blaid am fod gwerthoedd de-canol y grŵp hwnnw yn groes i werthoedd traddodiadol Fianna Fáil ei hun. Ymunodd Fianna Fáil â Chlymblaid y Rhyddfrydwyr a Democratiaid dros Ewrop yn 2009.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Fianna Fáil, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.