Ffonograff

Teclyn i recordio sain ydy'r ffonograff (o'r gair Saesneg phonograph, a fathwyd o'r geiriau Groeg: γράμμα, gramma, llythyr a φωνή, phōnē, llais) (hefyd gramoffon), a ddyfeisiwyd yn 1877 gan Thomas Edison.

Llwyddodd yn ei labordy yn New Jersey i atgynhyrchu'r llais dynol. Y geiriau cyntaf a recordiwyd erioed oedd Mary had a little lamb.

Ffonograff
Ffonograff Crwn Edison c. 1899.

Hanes

Mae'n anodd dweud pa bryd y daeth y ffonograff (neu'r gramoffon) yn fenter fasnachol lwyddiannus. Yn wreiddiol fe geisiodd cwmni'r Cylinder Phonograph addasu'r ddyfais ar gyfer swyddfeydd fel y gallesid, trwy'r llais, gofnodi llythyrau a gwybodaethau; ond ni bu'r fentur honno'n llwyddiant.

Dyfeisiwyd y ffonograff rhwng Mai a Gorffennaf 1877 wrth i Edison ymchwilio i "ail chwarae" negeseuon telegraff a'i waith trwy eu darlledu drwy'r ffôn.

Mewn sioeau a ffeiriau yn America y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond tua 1895 llwyddodd Almaenwr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio sbring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.

Ffonograff 
Edison gyda'i ail fersiwn; ffotograff gan Mathew Brady yn Washington, Ebrill 1878

Tua 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y Gramophone and Typewriter Company. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed Caruso yn canu yn Yr Eidal a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.

Yn ystod yr ugain mlynedd dilynol cafodd Caruso filiwn o bunnau o'i recordiau - a'r cwmni'n cael dwywaith gymaint a'r gwaith o recordio prif gantorion y byd wedi dechrau o ddifri. "Caruso" medd Gaisberg "a roddodd fri ar y gramoffon". Daeth cyfle Adelina Patti (soprano), Nellie Melba (soprano), Luisa Tetrazzini (soprano), John McCormack (tenor), Chaliapin (bas) a llu mawr hyd heddiw.

Recordio caneuon Cymraeg

Pa bryd cychwynnwyd recordio caneuon Cymraeg sy'n ansicr iawn. Roedd amryw o Recordiau Cymraeg yn y Catalog ym 1902. Mae rhai cantorion a recordiwyd yn gynnar ond ni wyddys dim amdanynt: dyna Festin Davies - yr ydym yn gwybod iddo fod yn Arweinydd yr Imperial Singers, a bu'r côr meibion yma amryw o weithiau yn America.

Ond un o'r rhai cyntaf i gael ei recordio oedd y bariton David Brazell a hynny ar ddechrau'r ganrif. Dechreuodd recordio i'r Phonograph ar y cyntaf a pharhaodd i recordio hyd tua 1930.

Recordiwyd, hefyd, Dr. Mary Davies lawer blwyddyn yn ôl; roedd hi'n un o'r artistiaid yn Eisteddfod Wrecsam 1888; yr oedd hefyd yn awdurdod ar ganu gwerin. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906 a chafodd y radd o Ddoethor mewn Cerddoriaeth ym 1916; bu farw ym 1930.

Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn Collectors Corner yn y Gramophone bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen Rhwng Gŵyl a Gwaith - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.

Un arall o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd Leila Meganne o Bwllheli ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan Lloyd George a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym Mharis dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i T. Osborne Roberts, Ysbyty Ifan, cyfansoddŵr a cherddor cydnabyddedig.

Recordiodd un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr Opera Comique ym Mharis.

Un arall a fu'n llwyddiant yn y Gymraeg er wedi ei eni yn America oedd Evan Williams, tenor yn meddu ar lais cyfoethog. Bu'n canu mewn oratorïau ledled Cymru a gwnaeth lawer iawn o recordiau. Roedd yn un o artist­iaid y Red Label i H.M.V..

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

    Sylwer: Daw trwch yr erthygl uchod o'r erthygl CAN MLYNEDD O RECORDIO gan Ifor Jones yng nghylchgrawn Y Casglwr, ; mae trwydded Creative Commons Attribution 3.0 License ar holl erthyglau'r cylchgrawn.

Tags:

Ffonograff HanesFfonograff Recordio caneuon CymraegFfonograff CyfeiriadauFfonograff Gweler hefydFfonograffIaith RoegNew JerseySaesnegThomas Edison

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Colegau Unedig y BydPorth SwtanClaudio MonteverdiTorri GwyntTotalitariaethDatganoli CymruHonCascading Style SheetsPalesteinaCyfathrach Rywiol FronnolUnol Daleithiau AmericaRostockHenry KissingerCyfraith tlodiGwyn ap NuddInto TemptationMessiUsenetCryno ddicBoduanEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023Steve EavesCymruAfon TeifiBoyz II MenY Forwyn FairTraeth CochGibraltarBarcelona, CernywAsiaLynette DaviesTŵr EiffelTwitch.tvCapital CymruEmyr PenlanLuton Town F.C.Penrith, CumbriaComin WicimediaO Homem NuJack AbramoffFfilm bornograffigFfilm droseddC'mon Midffîld!16 EbrillCwpan CymruArlywydd IndonesiaY ffliwHeddychiaeth yng NghymruRhestr ynysoedd CymruGwamAmsterdamBeryl GreyGenre gerddorolYnni adnewyddadwySputnik ICathCalendr HebreaiddSgerbwdYr ArianninMorgi mawr gwynHumza YousafHentaiGwlad PwylCarles PuigdemontTwrciThe WhoStereoteip🡆 More