Cantores opera enwog o Sbaenes oedd Adelina Patti (10 Chwefror 1843 – 27 Medi 1919).
Daeth yn hynod enwog ym myd cerddorol Llundain, Paris a dinasoedd mawr eraill fel un o sopranos opera mwyaf blaengar y cyfnod gyda'i llais bel canto. Roedd hi'n adnabyddus fel 'Madame Patti', "Brenhines y Gân". Ganwyd hi ym Madrid ar y pedwerydd-ar-bymtheg o Chwefror, 1843, i fam Eidalaidd a thad Sisilaidd.
Adelina Patti | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1843 Madrid |
Bu farw | 27 Medi 1919 Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Teyrnas yr Eidal |
Galwedigaeth | canwr opera, cyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, opera |
Math o lais | soprano coloratwra, soprano |
Mam | Caterina Barili |
Priod | Ernesto Nicolini |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic |
Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos, yn y Fforest Fawr, Brycheiniog, i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Gastell Craig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America.
Ym 1877 ysgrifennodd Giuseppe Verdi mai Patti oedd y gantores orau a fu erioed. Ym 1862, tra ar daith o'r Unol Daleithiau, canodd gân John Howard Payne - Home, Sweet Home yn y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Abraham Lincoln a'i wraig Mary Lincoln. Ar y pryd roeddent mewn galar wedi iddynt golli eu mab Willie a fu farw o'r teiffoid. Roedd dagrau'n powlio i lawr eu gruddiau a mynnent ei bod yn canu'r gân eilwaith. Am flynyddoeddd wedi hynny cysylltwyd y gân â Lincoln.
Tua 1890 y recordiodd ei chân gyntaf - ar gyfer Thomas Marshall yn Efrog Newydd. Collwyd y rhain dros y blynyddoedd.
Recordiodd dros 30 record gramaffôn o arias operatig a chaneuon eraill a cheir un recordiad o'i llais yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i'w gŵr, yn 1905 a 1906. Ceir 'tril' yn ei llais, hyd yn oed heddiw, a gallwn ddeall yn iawn pam ei bod, yn ei hanterth yn ennill $5,000 y noson.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adelina Patti, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.