Dangoswyd ffilm am y tro cyntaf yng Nghanada yn 1896 yn Quebec.
Trefnwyd y dangosiad gan Louis Minier a Louis Pupier, gan ddefnyddio sinematograff. Cynhyrchwyd rhai o'r ffilmiau cyntaf a wnaed yng Nghanada gan James Freer, a brynodd gamera Edison a thaflunydd a dechrau ffilmio gweithgareddau amaethyddiaeth a threnau'r Canadian Pacific Railway ym 1897.
Enghraifft o'r canlynol | byd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth |
---|---|
Rhan o | byd celf yng Nghanada |
Lleoliad | Canada |
Yn cynnwys | Film industry in Hamilton, Ontario |
Gwladwriaeth | Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd Bwrdd Ffilm Cenedlaethol Canada gan y llywodraeth ffederal ym 1939 i gynhyrchu ffilmiau, stribedi ffilm, a ffotograffau sy'n darlunio bywyd, diwylliant a meddwl Canada ac i'w dosbarthu ar draws y wlad ac i wledydd tramor. Daeth Canada i'r amlwg fel un o brif wneuthurwyr ffilmiau dogfen y byd. Ym 1967 sefydlodd y llywodraeth Gorfforaeth Ddatblygu Ffilmiau Canada i feithrin ac hyrwyddo diwydiant ffilmiau'r wlad drwy fenthyg arian i gynhyrchwyr a buddsoddi mewn ffilmiau hir
Mae Canada yn gartref i sawl gŵyl ffilm, gan gynnwys Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Vancouver, Gŵyl Ffilmiau'r Byd Montréal, a Gŵyl Ffilmiau Whistler. Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff yn canolbwyntio ar ffilmiau sy'n ymwneud â mynyddoedd, gan gynnwys fforio, chwaraeon ac anturio, bywyd mynyddig, a'r amgylchedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffilm yng Nghanada, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.