Un o'r seintiau cynharaf oedd Eurgain, (hefyd Eigen, Eurgen ac Eurgan) - er bod llawer o'i hanes wedi'i gymylu gan Iolo Morgannwg ac eraill.
Eurgain | |
---|---|
Ganwyd | Llaneurgain |
Bu farw | 1 g |
Man preswyl | Ynys Brydain, Rhufain, De Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Blodeuodd | 6 g |
Tad | Caradog |
Ceir hefyd lawysgrifau o eiddo Iestyn ab Gwrgant sy'n nodi: "y bu'n byw yn agos at y ganrif gyntaf, roedd yn ferch i Garadog, arweinydd yr amddifyniad yn erbyn y Rhufeiniad yn y canrif cyntaf. Priododd Eurgain â Sallog; preswyliodd y ddau yng Nghaer Sallog. Ar ôl cael eu cipio a'u cymryd i Rhufain mewn cadwyni gyda'i thad a'i chwaer Gwladus, dywedir fod Eurgain wedi dychwelyd o Rufain gyda Charadog, i ffurfio coleg o ddeuddeg disgybl a alwyd yn Gôr Eurgain. Arhosodd Gwladus yn Rhufain ac aeth yn disgybl i St Paul. Mae nifer o ysgolheigion, gan gynnwys: Rice Rees, Jane Williams, Sabine Baring-Gould a John Williams (Ab Ithel) yn mynnu mai Eurgain oedd y santes gyntaf.
Ni ddylid cymysgu hi gyda Eurgain ach Maelgwn Gwynedd, santes o'r 6g .
Eglwys sy'n dwyn ei henw yw Eglwys Llanigon, ond mae rhai o'r farn mai cyfeiriad sydd yma i Eigion, brawd Sant Cynidr, a roddodd ei enw i eglwys gyfagos, sef yr eglwys yng Nghlas-ar-Wy.
Defnyddiodd Elgar yr enw Eigen mewn cantata a ysgrifennodd rhwng 1897 a 1898, a soniai am y Brenin Eigen a drechwyd gan y Rhufeiniaid. Ond mae posibilrwydd iddo ddefnyddio'r enw gan fod ganddo gymydog o'r un enw: 'Eigen Stone', pan oedd yn byw yn Malvern.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eurgain, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.