Ernest Thompson Willows

Roedd Ernest Thompson Willows (11 Gorffennaf 1886 - 23 Awst 1926) yn flaenllaw iawn yn y byd balwnau awyr yng ngwledydd Prydain a'r cyntaf i ddal trwydded peilot llong awyr.

Ernest Thompson Willows
Ganwyd11 Gorffennaf 1886 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Kempston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Clifton Edit this on Wikidata
Galwedigaethhedfanwr Edit this on Wikidata
Ernest Thompson Willows
Balwnau "barrage" yn hedfan uwchben Llundain yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd, a'i addysgu yng Ngholeg Clifton. Gadawodd yn bymtheg oed i gychwyn ei hyfforddiant fel deintydd.

Adeiladodd ei longawyr cyntaf, sef 'Willows No. 1' yn 1905 pan oedd yn 19eg oed. Hedfanodd am 85 munud o 'East Moors', Caerdydd a hynny ar y 5ed o Awst, 1905. Dilynwyd y daith hon gyda thaith pellach yn ei 'Willows No. 2' gan lanio y tu allan i Neuadd y Dref, Caerdydd ar 4 Mehefin 1910 a thaith pellach i 'Crystal Palace' Llundain yn Awst. Atgyfnerthodd y llongawyr hon gan ei hailenwi yn Rhif 3 ac yn 'Dinas Caerdydd' gan hedfan ynddi o Lundain i Ffrainc.

Ei daith i Ffrainc

Ar y daith hon collodd ei fap dros yr ochr yn ystod y nos a chafodd broblemau gyda'r balwn ei hun a olygodd y bu'n rhaid iddo lanio yn Corbehem ger Douai am ddau o'r gloch y bore. Gyda chymorth trigolion lleol y pentref, trwsiodd y canfas ac aeth yn ei flaen gan lanio ym Mharis ar 28 Rhagfyr 1910. Dathlodd y dydd Calan gyda thaith o amgylch y Tŵr Eiffel.

Ffatri

Symudodd i Birmingham ac aeth ati i adeiladu Rhif 4. Gwerthodd hon i'r llynges am £1,050 ac ailenwyd hi'n 'His Majesty's Naval Airship No. 2'. Cychwynodd ysgol falwnau gyda'r arian yn 'Welsh Harp', Hendon, ger Llundain ac aeth ati ar yr un pryd i adeiladu 'Willows No. 5' yn 1913; roedd pedair sedd ynddi ac fe'i chynlluniwyd fel llongawyr pleser i fynd a phobl ar deithiau uwch ben Llundain.

Diwedd y daith

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf adeiladodd falwnau 'barrage' yn Westgate Street ac yn Llanisien yng Nghaerdydd. Ar 23 Awst 1926 bu farw mewn damwain falwn yn Hoo Park, Kempston, Bedford ynghyd â dau deithiwr arall yn ddim ond deugain oed.

Fe'i claddwyd ym Mynwent cathays a galwyd ysgol, tafarn a stryd ar ei ôl yng Nghaerdydd.

Cyfeiriadau

    Cyfeiriadau Cyffredinol

Tags:

Ernest Thompson Willows Ei daith i FfraincErnest Thompson Willows FfatriErnest Thompson Willows Diwedd y daithErnest Thompson Willows CyfeiriadauErnest Thompson Willows11 Gorffennaf1886192623 AwstBalwn aer cynnesGwledydd PrydainLlong awyr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Manon RhysDurlifMynydd IslwynJapan23 EbrillFernando AlegríaHydrefRichard ElfynTrwythExtremoDestins ViolésRhuanedd RichardsHarry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm)Safleoedd rhywBrad y Llyfrau GleisionRosa LuxemburgUsenetAndrea Chénier (opera)Y Derwyddon (band)SbaenThomas Gwynn JonesDosbarthiad gwyddonolGwneud comandoC.P.D. Dinas AbertaweWalking TallAlldafliadBarack ObamaTywysogMarshall ClaxtonRhyw geneuolWilbert Lloyd RobertsCwmwl OortOrganau rhywWiciadurAmerican Dad XxxIndonesiaHwyaden ddanheddogTsunamiRhyfel yr ieithoeddBirminghamBananaLlythrenneddGaius MariusHanes TsieinaComin WicimediaE. Wyn James784Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022Kempston HardwickLlydawIn My Skin (cyfres deledu)Maes Awyr HeathrowBartholomew RobertsAled a RegJimmy WalesSiôr (sant)Coden fustlFfilmC.P.D. Dinas CaerdyddClwb C3🡆 More