Actores Seisnig yw Emilia Isabelle Euphemia Rose Clarke (ganwyd 23 Hydref 1986) Caiff ei hadnabod fel Daenerys Targaryen, rôl mwyaf ei gyrfa hyd yma, yn y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones (HBO).
Hyd at 2016 roedd wedi cael tri enwebiad 'Primetime Emmy Award am chwarae'r rhan yma: yn 2013, 2015 a hefyd yn 2016.
Emilia Clarke | |
---|---|
Ganwyd | Emilia Isobel Euphemia Rose Clarke 23 Hydref 1986 Llundain |
Man preswyl | Berkshire, Hampstead, Venice |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Adnabyddus am | Game of Thrones |
Gwobr/au | MBE |
Yn Broadway ym Mawrth 2013 yr ymddangosodd yn gyntaf: yn Breakfast at Tiffany's fel y cymeriad Holly Golightly. Yn 2015, serenodd fel Sarah Connor yn Terminator Genisys ac yn 2016 yn y ffilm rhamant Me Before You, a wnaeth incwm o $150 miliwn yn fyd-eang.
Yn 2015 enwyd hi gan y cylchgrawn Esquire fel y Sexiest Woman Alive.
Actiodd Clarke mewn dwy ddrama tra roedd yn Ysgol Uwchradd St Edward, Rhydychen, a deg yn y Coleg yng Nghanolfan Ddrama Llundain yn 2009: Company of Angels a Sense. Yn bu'n rhan o ddwy hysbyseb yr un flwyddyn, ar gyfer y Samaritans. Serenodd mewn ffilm bychan i fyfyriwr o Brifysgol Llundain hefyd. Actiodd yn broffesiynol yn y gyfres sebon Doctors yn 2009 a Savannah yn Triassic Attack y flwyddyn wedyn. Cafodd ei disgrifio gan y cylchgrawn Screen International fel "un o ser y dyfodol" ("UK Stars of Tomorrow").
Yn 2010 cafodd y rhan a'i gwnaeth yn seren byd-enwog, sef fel Daenerys Targaryen yn y ffantasi Canol Oesol HBO: Game of Thrones, a oedd wedi'i sefydlu ar gyfres o lyfrau o'r enw A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin. Mewn cyfweliad dywedodd Clarke iddi wneud funky chicken a dawns robot yn y cyfweliad.
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2012 | Spike Island | Sally Harris | |
2012 | Shackled | Malu | Ffilm cwta |
2013 | Dom Hemingway | Evelyn Hemingway | |
2015 | Terminator Genisys | Sarah Connor | |
2016 | Me Before You | Louisa (Lou) Clark | |
2016 | Voice from the Stone | Verena | |
2017 | Above Suspicion | Ffilmio |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Emilia Clarke, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.