Roedd Syr Eldryd Hugh Owen Parry KCMG, OBE (27 Tachwedd 1930 – 13 Tachwedd 2022) yn academydd a meddyg Cymreig.
Roedd e'n sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol.
Eldryd Parry | |
---|---|
Ganwyd | 27 Tachwedd 1930 |
Bu farw | 13 Tachwedd 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd |
Gwobr/au | OBE, Marchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Medal Donald Mackay, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon |
Cafodd Parry ei addysg yn Ysgol Amwythig ac astudiodd feddygaeth yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt. Bu'n gweithio yn y Royal Postgraduate Medical School yn Llundain cyn secondiad i Ysbyty Coleg y Brifysgol, Ibadan, Nigeria, ym 1960. Daliodd sawl swydd yn Nigeria. Yr oedd Parry yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Caerdydd.
Priododd Parry â'r academydd Helen Parry a bu iddo bedwar o blant a phedwar o wyrion ac wyresau. Bu farw Eldryd Parry ar 13 Tachwedd 2022, yn 91 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eldryd Parry, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.