Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan, Gwynedd, rhwng 5 - 12 Awst 2023.
Hwn oedd Eisteddfod olaf yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Llywydd yr Ŵyl oedd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ac roedd hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Erbyn diwrnod cyntaf yr Eisteddfod, roedd £503,610 wedi ei godi gan y gronfa leol, y tro cyntaf iddo basio'r hanner miliwn. Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llys yr Eisteddfod, na fyddai'r fath ymdrech yn bosib os nad oedd yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru.
Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda chyngerdd dan y teitl ‘Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory’ ar y nos Sadwrn yng nghwmni’r grŵp gwerin, Pedair (Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Siân James), a Côr Gwerin yr Eisteddfod. Roedd nifer o artistiaid amlwg Cymru yn westeion arbennig, sef Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Einir Humphreys, Twm Morys, Tudur Phillips, Patrick Rimes a band gwerin.
Roedd y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn Mawr nos Sul, 6 Awst, fel arfer, gyda’r arweinydd profiadol Pat Jones wrth y llyw. Yr organydd oedd Ilid Anne Jones a bydd Côr y Gymanfa’n ymuno i ganu’r emynau, ynghyd â chanu cyfres o drefniannau newydd o rai o ganeuon enwocaf Leila Megàne, y mezzo-soprano enwog o Lŷn. Bydd nifer o’r caneuon yn adnabyddus iawn, gan gynnwys - ‘Gwlad y Delyn’, ‘Bwthyn Bach To Gwellt’, ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Nefoedd’ a ‘Dafydd y Garreg Wen’. Paratowyd y trefniannau gan Ilid Anne Jones, ac fe’u golygwyd gan Huw Gwynne.
Lleolwyd y Maes ym Moduan ar dir wrth ochr yr A497. (52°54′21″N 4°28′23″W / 52.905779°N 4.473136°W). Roedd y maes carafanau ar gaeau cyfagos i'r gogledd o'r Maes gyda Maes B i'r de o'r brif ffordd.
Roedd cynllun arbennig yn cynnig tocynnau am ddim i deuluoedd incwm isel sy'n byw yng Ngwynedd. Clustnodwyd £150,000 o gymorth ariannol gan Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynllun.
Daeth glaw trwm ar y dydd Sadwrn cyntaf gan greu pyllau dŵr a mwd ond roedd y cae yn sychu'n gyflym, ac roedd y tywydd yn gymharol braf weddill yr wythnos.
Enillydd y Gadair oedd Alan Llwyd (ffugenw "Llanw a Thrai"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Karen Owen, ar ran ei chyd-feirniaid Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth. Dim ond 6 ymgeisydd oedd eleni ac roedd yn syndod i'r beirniaid fod cyn lleied wedi ymgeisio, yn enwedig wedi i'r pandemig oedi'r cystadlu am bron i dair blynedd. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Llif. Dywedodd y beirniaid fod y "tri mewn cytundeb llwyr, yn dawel ein meddyliau, mai Llanw a Thrai ydi'r bardd sydd ar y brig, a'i fod yn gwbl deilwng o'r Gadair a phob braint ac anrhydedd a berthyn iddi".
Noddwyd y Gadair gan deulu’r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd. Mae'r Prifardd yn derbyn y gadair a £750. Cynlluniwyd a chrëwyd y Gadair gan Stephen Faherty sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o ardal Porthmadog. Lluniwyd y Gadair o ddarn mawr o goeden dderw a blannwyd ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.
Enillydd y Goron oedd Rhys Iorwerth (ffugenw "Gregor"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Jason Walford Davies ar ran ei gyd-feirniaid Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds. Cystadlodd 42 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Rhyddid. Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Jason Walford Davies "Yr hyn a geir gan Gregor yw enghraifft loyw o fewnoli'r testun gosod i'r fath raddau nes bod 'pwnc' arwynebol yn troi'n rhan fywiol o weadwaith yr iaith a'r meddwl."
Creuwyd y goron gan Elin Mair Roberts o'r Ffôr, ger Pwllheli ac fe'i noddwyd gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yna hefyd wobr ariannol o £750, a roddwyd gan deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.
Yr enillydd oedd Alun Ffred Jones o Lanllyfni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Sioned Wiliam, ar ran ei chyd-feirniaid Mared Lewis a Dewi Prysor. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 gafodd ei roi gan Williams Homes a Grŵp Cynefin.
Daeth 10 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid bod "gan bob nofelydd rhywbeth gwahanol iawn i’w gynnig ac fe gafodd Mared a Dewi a finne bleser mawr yn trafod eu gwaith…". Roedd y tri beirniaid yn unfrydol fod "Gwynt y Dwyrain" gan Gerddi Gleision yn llwyr haeddu Gwobr Daniel Owen 2023.
Enillydd y Fedal oedd Meleri Wyn James o Aberystwyth gyda'i nofel Hallt dan y ffugenw "Fi a Ti".
Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Porth". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig er cof am Robyn a Gwenan Léwis, gan y teulu.
Thraddodwyd y feirniadaeth gan Menna Baines, ar ran ei chyd-feirniaid Lleucu Roberts ac Ion Thomas.
Enillydd y Fedal oedd Cai Llewelyn Evans, sy'n wreiddiol o Bontarddulais ac yn byw yn Nhreganna, Caerdydd, am ei ddrama Eiliad o Ddewiniaeth (ffugenw "Wasabi"). Roedd 26 ymgais eleni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Steffan Donnelly ar ran ei gyd-feirniaid Seiriol Davies ac Elgan Rhys. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.
1. Bandiau Pres Pencampwriaeth | Dosbarth 1 1. Seindorf Arian Deiniolen 2. Band Arian Llaneurgain 3. Seindorf Beaumaris
3. Bandiau Pres Dosbarth 4 1. Band Pres Treffynnon 2. Band Pres Porthaethwy 3. Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog
4. Bandiau Pres Ieuenctid 1. Seindorf Ieuenctid Beaumaris, Beaumaris 2. Band Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Caernarfon
5. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer 1. Côr yr Heli 2. Côr Trillyn 3. Côr Tônteg
6. Parti Cerdd Dant 1. Lleisiau Ceiri 2. Parti Tegeirian 3. Parti'r Cwm
7. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed 1. Aelwyd Chwilog 2. Parti Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn
8. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant 1. Ceri, Ruth a Siriol, Conwy 2. Pedwarawd Cennin, Caernarfon 3. Lleucu, Fflur, Annest a Mared, Bala
9. Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Siriol a Ruth, Dyffryn Clwyd 2. Elin ac Anna, Pentreuchaf, Pwllheli 3. Carol a Helen, Botwnnog ac Aberystwyth
10. Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed 1. Branwen a Hanna, Llanbedr Dyffryn Clwyd 2. Ela Mablen Griffiths-Jones ac Olivia Davies, Llanybydder 3. Gwenan ac Ynyr, Rhuthun
11. Gwobr Aled Lloyd Davies - Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Siriol Elin 2. Elin Tomos 3. Enlli Pugh-Jones
12. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed 1. Branwen Medi Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd 2. Owain John, Llansannan 3. Llŷr Ifan Eirug, Aberystwyth
13. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed 1. Lowri Anes Jarman, Llanuwchllyn 2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Llanybydder 3. Leusa Francis, Caernarfon
14. Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed 1. Nanw Melangell Griffiths-Jones 2. Madi Gwyn Williams 3. Jini-Grug Dobson
15. Cystadleuaeth gyfeilio 1. Emma Cerys Buckley 2. Beca Haf Williams 3. Alwena Mair Owen
16. Gosodiad o dan 25 oed 1. Gronw Ifan, Llwyndyrys
122. Perfformiad Gwreiddiol 1. Glanaethwy, Bangor 2. Criw Yr Ynys, Bodedern 3. Criw Porthor, Pen Llŷn
17. Côr Adloniant: Côr heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr CF1 2. Côr Ieuenctid Môn 3. Côr Llanddarog
18. Côr Cymysg: heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Llundain 2. Côr Dyffryn Clwyd 3. Côr CF1
19. Côr Lleisiau Tenor | Bas : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Meibion Machynlleth 2. Côr Meibion Llangwm 3. Côr Meibion Ar ôl Tri
20. Côr Lleisiau Soprano | Alto : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Aelwyd Chwilog, Chwilog 2. Tegalaw, Bala 3. Lleisiau Mignedd, Caernarfon
21. Côr i rai 60 oed a throsodd : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Hen Nodiant, Caerdydd 2. Encôr, Porthaethwy 3. Côr Cynhaearn, Porthmadog a'r cylch
22. Côr Ieuenctid o dan 25 oed : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Ieuenctid Mon 2. Merched Plastaf 3. Côr Iau Glanaethwy
23. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Eifionydd 2. Côr BuAnn 3. Meibion Marchan
24. Y Gân Gymraeg Orau 1. Côr Ieuenctid Môn
25. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl er cof am Sioned James 1. Mari Lloyd Pritchard (Côr Ieuenctid Môn)
26. Côr yr Ŵyl 1. Côr Ieuenctid Mon
27. Ensemble Lleisiol Agored : 3-6 mewn nifer 1. Merched Mela, Pwllheli 2. Ensemble Dyffryn Clwyd, Abergele 3. Merched Iwan, Caerfyrddin
28. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. Erin Gwyn Rossington, Llanfair Talhaearn 2. Emyr Lloyd Jones, Caernarfon 3. Dafydd Jones, Dinbych 4. Robin Gruffudd Hughes, Llundain
29. Unawd Soprano 25 oed a throsodd 1. Heulen Cynfal 2. Sioned Llewelyn 3. Sara Davies
30. Unawd Mezzo-Soprano | Contralto | Uwchdenor 25 oed a throsodd 1. Catrin Mair Parry 2. Gerallt Rhys Jones
31. Unawd Tenor 25 oed a throsodd 1. Elis Jones 2. Efan Williams 3. Ben Ridler
32. Unawd Bariton | Bas 25 oed a throsodd 1. Ilan Jones 2. Twm Tegid 3. Andrew Evans
33. Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas 1. Heulen Cynfal
34. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd 1. Richard Treflyn Jones 2. Arfon Rhys Griffiths 3. Gwynne Jones
35. Unawd Lieder | Cân Gelf 25 oed a throsodd 1. Siôn Eilir Roberts 2. Aled Wyn Thomas 3. Lyndsey Vaughan Pleming
36. Unawd Lieder | Cân Gelf o dan 25 oed 1. Owain John, Llansannan, ger Dinbych 2. Erwan Hughes, Bethel 3. Llinos Haf Jones, Penarth
37. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd 1. Dyfan Parry Jones, Machynlleth 2. Heulen Cynfal Y Parc, Bala 3. Bethan Elin, Ynys Môn
38. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Manon Ogwen Parry, Penarth 2. Kathy Macaulay, Caerdydd 3. Ffion Mair Thomas, Crymych
39. Unawd Mezzo-Soprano | Contralto | Uwchdenor 19 ac o dan 25 oed 1. Llinos Haf Jones 2. Elen Wyn
40. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Rhys Meilyr, Llangefni 2. Elis Garmon Jones, Llanuwchllyn
41. Unawd Bariton | Bas 19 ac o dan 25 oed 1. Owain Rowlands 2. Tomos Heddwyn Griffiths 3. Owain John
42. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas 1. Llinos Haf Jones
43. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd 1. Lili Mohammad 2. Siriol Elin 3. Ffion Elin Davies
44. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts 1. Lili Mohammad
45. Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed 1. Leisa Mair Lloyd-Edwards, Dyffryn Nantlle 2. Alis Tomos, Caernarfon 3. Leusa Francis, Caernarfon
46. Unawd Soprano | Alto | Uwchdenor 16 ac o dan 19 oed 1. Branwen Medi Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd 2. Leisa Mair Lloyd-Edwards, Dyffryn Nantlle 3. Lea Morus Williams, Llansannan
47. Unawd Tenor | Bariton | Bas 16 ac o dan 19 oed 1. Guto Jenkins, Pencader, Llandysul 2. Gwern Morus Williams, Penmynydd 3. Ynyr Lewys Rogers, Rhuthun
48. Unawd Soprano | Alto 12 ac o dan 16 oed 1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Alwena Mair Owen 3. Ela Mai Williams
49. Unawd Tenor | Bariton | Bas 12 ac o dan 16 oed 1. Efan Arthur Williams 2. Liam Arfon Jones 3. Deio Rhys
50. Unawd o dan 12 oed 1. Elen Dafydd Roberts 2. Awen Grug Hogg 3. Olwen Swyn
51. Gwobr Goffa Eleri Evans 1. Elain Rhys
52. Grŵp Offerynnol Agored 1. Maria a Gwenno 2. Triawd Ffliwt Canolfan Gerdd William Mathias 3. Ysgol Delyn Derwent
53. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd 1. Aisha Gwyneth Palmer
54. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd 1. Ruby Howells 2. Lleucu Parri 3. Daniel O'Callaghan
55. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd 1. Cai Charles 2. Thomas Mathias 3. Carys Barnes
56. Unawd Piano 19 oed a throsodd 1. Tomos Boyles
57. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd 1. Freddie Hughes
58. Unawd Telyn 19 oed a throsodd 1. Aisha Gwyneth Palmer 2. Anna Phillips 3. Heledd Newton
60. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Rufus Edwards
61. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed 1. Catrin Edwards, Aberaeron
63. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed 1. Rufus Edwards, Wrexham 2. Catrin Edwards, Aberaeron 3. Gruffudd ab Owain, Y Bala
64. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed 1. George Hughes, Llysfaen 2. Glyn Porter, Caernarfon 3. Catrin Mai Huws-Thomas, Caernarfon
65. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed 1. Cadi Glwys Davies, Dyffryn Tanat 2. Emma Cerys Buckley, Pontllyfni, Caernarfon 3. Megan Elan Jones
66. Unawd Offeryn/nau Taro 16 ac o dan 19 oed 1. Bryn Richards, Caerfyrddin
67. Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed 1. Llew Mills
68. Unawd Chwythbrennau o dan 16 oed 1. Lea Mererid Roberts 2. Martha Nel 3. Christina Hutchinson-Rogers
69. Unawd Llinynnau o dan 16 oed 1. Michael Hutchinson-Rogers
70. Unawd Piano o dan 16 oed 1. Martha Rhys 2. Lea Mererid Roberts 3. Malena Gwynn Aled
71. Unawd Offerynnau Pres o dan 16 oed 1. Anna Celyn Evans 2. Leusa Francis 3. Gruffydd Siôn
72. Unawd Telyn o dan 16 oed 1. Alwena Mair Owen 2. Malena Gwynn Aled 3. Sali Mair
73. Unawd Offeryn/nau Taro o dan 16 oed 1. Llew Mills
74. Tlws y Cerddor 1. Lowri Mari Jones
75. Emyn-dôn gyfoes 1. Sian Wheway
76. Trefniant o unrhyw gân Gymreig gyfoes i fand pres a chôr addas fel diweddglo cyngerdd 1. Owain Roberts, Llundain
77. Unawd 1. Ruth Owen, Llanrwst
78. Darn ar gyfer ensemble telyn 1. Morfudd Sinclair, Stourport on Severn
80. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed 1. Rhiannon Iwerydd, Crymych
81. Tlws Coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin 2. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd
82. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Dawnswyr Hafwyl, Caerfyrddin 2. Dawnswyr Môn, Ynys Mon 3. Dawnswyr Caernarfon, Caernarfon
83. Parti Dawnsio Gwerin o dan 25 oed 1. Dawnswyr Triban Talog, Sir Gaerfyrddin 2. Dawnswyr Gwenyn Talog, Sir Gaerfyrddin 3. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd
84. Dawns Stepio i grŵp 1. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd 2. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin 3. Clocswyr Madryn, Pwllheli
85. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio 1. Daniel a Morus Jones, Caerdydd 2. Aaron, Abel, Caian a Dion, Blaenycoed 3. Esther, Erin a Luned
86. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Fechgyn 18 oed a throsodd 1. Daniel Calan Jones, Caerdydd 2. Elwyn Siôn Williams, Caerdydd 3. Trystan Gruffydd
87. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Ferched 18 oed a throsodd 1. Lleucu Parri, Caerdydd 2. Elen Morlais Williams, Caerdydd 3. Gwennan Staziker
88. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Fechgyn o dan 18 oed 1. Morus Caradog Jones 2. Dion Ioan Jones 3. Caian Wyn Evans
89. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Ferched o dan 18 oed 1. Erin Eluned Jones 2. Cadi Glwys Davies 3. Luned Medi Defis
91. Parti o Ddawnswyr Di-Brofiad 1. Ysgafndroed 2. Dawnswyr Porth Neigwl 3. Dawnswyr Plenydd
92. Cyfansoddi dawns 1. Idwal Williams, Llanrug
93. Dawns greadigol | Gyfoes Unigol 1. Amy Morgan, Llambed 2. Ebony Morgans, Rhydaman 3. Twm Môn Huws, Llannerchymedd
94. Dawns greadigol | gyfoes i grŵp dros 4 mewn nifer 1. Grŵp Eilian, Amlwch 2. Ysgol Ddawns Sally Saunders, Llambed
95. Dawns aml-gyfrwng i bâr neu driawd mewn unrhyw arddull 1. Sally Saunders School of Dance - Amy & Anna, Llambed 2. Catherine ac Elen, Llundain 3. Lowri a Jodie, Llannerch-y-medd ag Amlwch
96. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd 12 oed a throsodd 1. Ebony Morgans, Rhydaman 2. Mia Fflur, Amlwch 3. Olly Louis Fraser Jones, Caernarfon
97. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd o dan 12 oed 1. Lal Prydderch Ifan, Bodedern 2. Elsa Gwyn Vaughan Pleming, Deiniolen 3. Mia Elin Mckeaveney, Llannerchymedd
98. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr neu Driawd 1. Lowri & Jodie 2. Mia Elin Mckeaveney & Lal Prydderch Ifan 3. Amber & Elan
99. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp 1. Hudoliaeth 2. Bodiau Llachar Gwrachod 3. Disgyrchiant
101. Côr Dysgwyr 1. Côr Cambria 2. Cantorion Y Gelli 3. Côr Dinllaen
102. Parti Canu : hyd at 12 mewn nifer 1. Parti Cyd Aberystwyth 2. Parti Nant Wiber
103. Sgets: Sgwrs mewn meddygfa 1. Grwp Hirnant: Amanda Laing and Nichola Bradley, Llanrhaeym Mochnant 2. Parti Llambed, Llanbedr Pont Steffan 2. Mwtaniad: Kees Vugts, Kate Williams, Gary Williams, Sue Marcus, Llangammarch
105. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd 1. Georgina Cornock-Evans, Pumpsaint 2. Susan Fogarty, Pwllheli 3. David Christie, Bangor
106. Unawd Lleisiol 1. Seren Parri, Birmingham 2. Peter Lane, Mynydd Nefyn 3. Roz Williams Jones, Chwilog
107. Cystadleuaeth Y Gadair 1. Sophie Roberts, Trelawnyd
108. Cystadleuaeth Y Tlws Rhyddiaith 1. Matt Elliott, Bae Colwyn
109. Darn o ryddiaith : Lefel Canolradd 1. Joan Benison, Caerdydd
110. Darn o ryddiaith : Lefel Sylfaen 1. Helen Morris, Matlock
111. Darn o ryddiaith : Lefel Mynediad 1. Lesley Butler, Porthmadog
112. Flog (blog fideo) 1. Linda McGrath, Bootle
115. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer 1. Côr yr Heli 2. Côr Glanaethwy 3. Côr Cymunedol Yr Ynys
116. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer 1. Eryrod Meirion 2. Lodesi Dyfi 3. Aelwyd Chwilog
117. Parti Alaw Werin o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Aelwyd Yr Ynys 2. Aelwyd Chwilog
118. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd 1. Cai Fôn Davies 2. Cadi Mars Jones 3. Siriol Elin
119. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Cadi Gwen Williams 3. Leisa Mair Lloyd-Edwards
120. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed 1. Fflur Erin Edwards 2. Cari Lovelock 3. Non Alaw Prys
121. Unawd Alaw Werin o dan 12 oed 1. Awen Grug Hogg 2. Elen Dafydd Roberts 3. Nanw Melangell Griffiths-Jones
130. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer 1. Genod Llŷn 2. Sarn Helen 3. Lleisiau Cafflogion
131. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer 1. Parti Man a Man 2. Mamau Genod Llŷn 3. Yr Alltudion
132. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd 1. Anni Llŷn
133. Llefaru Unigol 21 oed a throsodd 1. Cai Fôn Davies, Bangor 2. Hanna Llŷn, Caerdydd 3. Siôn Jenkins, Llandysilio, Sir Benfro a Treganna, Caerdydd
135. Y Rhuban Glas Ieuenctid: Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed 1. Sara Elan Jones, Llanbedr Pont Steffan 2. Erin Llwyd, Corwen 3. Gwenan Mars, Dinbych
136. Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed 1. Gwenno Llwyd Beech 2. Beca Dwyryd 3. Trystan Bryn Evans
137. Llefaru Unigol o dan 12 oed 1. Awel Grug Lewis 2. Ruby Haf James 3. Elain Grug Williams
138. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd 1. Meleri Morgan 2. Daniel O'Callaghan 3. Cai Fôn Davies
139. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur o dan 16 oed 1. Peredur Hedd Llywelyn 2. Fflur McConnell 3. Olwen Roberts
140. Perfformio Darn Digri Agored heb fod yn hwy na 4 munud o hyd : Cymdeithas Eisteddfodau Cymru 1. Peredur Hedd Llywelyn 2. Erin Dwyfor Roberts 3. Gwion Dafydd Bowen
143. Cyfansoddi 3 cerdd heb eu cyhoeddi na’u darlledu: Agored 1. Osian Owen, Twtil, Caernarfon
144. Englyn Unodl Union: Ynys 1. Alan Llwyd, Abertawe
145. Cerdd Gaeth heb fod dros 30 o linellau: Mur neu Muriau 1. Alan Iwi, Didcot
146. Telyneg: Neb 1. Meinir Ebbsworth, Cwrtnewydd
147. Sianti: Agored 1. Elen Williams, Pwllheli
148. Soned: Ffenestr neu Ffenestri 1. Alan Llwyd, Abertawe
149. Tair Cerdd i Blant: Agored 1. Gwen James, Caernarfon
150. Geiriau Cân yn y Dull Canu Gwlad: Agored 1. Elen Williams, Pwllheli
151. Tair o Gerddi Byrion Ysgafn: Agored 1. John Wyn Jones, Llangefni
156. Ysgoloriaeth Fentora Emyr Feddyg 1. Miriam Sautin, Caerdydd
157. Gwobr Stori Fer Tony Bianchi 1. Math Wiliam, Caerdydd
158. Stori fer ffraeth 1. Gwenda Richards, Caernarfon
159. Casgliad o 9 darn o Lên Meicro 1. Sian Meinir, Penarth
160. Ysgrif 1. Morgan Owen, Aberystwyth
161. Erthygl 1. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn
163. Sgript i eitem podlediad hyd at 10 munud: Agored 1. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn
164. Tlws yr Ifanc i rai o dan 25 oed 1. Gruffudd Emrys ab Owain, Y Bala
165. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy’n dal i fyw yn yr Ariannin 1. Alwen Green, Trevelin
166. Actio Drama neu waith dyfeisiedig 1. Ffermwyr Ifanc Uwchaled, Cerrigydrudion 2. Cwmni Drama Llanystumdwy, Llanystumdwy 3. Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst
167. Actor gorau cystadleuaeth 166 1. Gwyn Wheldon — Cwmni Drama Llanystumdwy
168. Cyfarwyddwr gorau cystadleuaeth 166 1. Sian Edwards — Ffermwyr Ifanc Uwchaled
169. Gwobr Richard Burton 19 oed a throsodd 1. Cai Fôn Davies 2. Iestyn Gwyn Jones 3. Nel Rhys Lewis
170. Deialog 1. Grŵp Nel, Caernarfon 2. Betsan, Seren a Ela, Llanelli 3. Ceuron a Ania, Ynys Môn
171. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Owain Siôn, Llanfairpwllgwyngyll 2. Elan Calan Davies, Blaenau Ffestiniog 3. Gruff Gwyn, Eglwysbach
172. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Leusa Elgan Metcalfe 2. Ela Mablen Griffiths-Jones 3. Malena Gwynn Aled
175. Trosi un o’r canlynol i’r Gymraeg 1. Sioned Young, Clunderwen
176. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol 1. Martin Huws, Ffynnon Taf
179. Adolygiad o gynhyrchiad theatrig Cymraeg 1. Sioned Young, Clunderwen
180. Sgript ‘stand-yp’ 1. Gwion Clarke, Caernarfon
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.