Arweinydd Eidalaidd yw Carlo Rizzi (ganed 19 Gorffennaf 1960).
Carlo Rizzi | |
---|---|
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1960 Milan |
Dinasyddiaeth | yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, cerddor |
Cafodd Rizzi ei eni ym Milan, yr Eidal. Astudiodd ef cerddoriaeth yng nghonservatoire Milan. Yn hwyrach, bu'n fyfyriwr i Vladimir Delman, yn Bologna, a gyda Franco Ferrara yn Siena. Ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd opera oedd ym 1982, gyda L'ajo nell'imbarazzo Donizetti. Ym 1985, enillodd y gystadleuaeth gyntaf Arweinydd Toscanini yn Parma.
Arweiniodd Rizzi gyntaf yn y DU yng Ngŵyl Buxton 1988 gyda Torquato Tasso Donizetti, ac fe arweiniodd cynyrchiadau yn Nhŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ac Opera North. Ym mis Awst 1992, fe'i benodwyd yn gyfarwyddwr cerddorol ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), gan aros tan 2001. Yn ystod ei amser dysgodd i siarad Cymraeg. Yn 2004, yn dilyn ymddeoliad sydyn ei olynydd Tugan Sokhiev yn WNO, dychwelodd Rizzi fel cyfarwyddwr cerddoriaeth ar gyfer cyfnod o ddwy flwyddyn. Arhosodd tan 2007.
Yn 2005 arweiniodd y Vienna Philharmonic (gan lenwi ar gyfer Marcello Viotti) ar gyfer llwyfaniad Willy Decker o La traviata yng Ngŵyl Salzburg. Canodd Anna Netrebko rôl Violetta, a Rolando Villazón rôl Alfredo Geront. Yn ôl bob sôn, roedd tocynnau ar gyfer y saith perfformiad wedi eu gorfwcio, gyda rhai wedi gwerthu am dros 2,000 Ewro. Fe wnaeth rhai beriniaid feirniadu arwain Rizzi.
Mae recordiadau sain Rizzi yn cynnwys fersiwn iaith-Saesneg o Kát'a Kabanová Leoš Janáček (Chandos), a set DVD La traviata (Deutsche Grammophon).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Carlo Rizzi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.