Dadgysegrwyd Eglwys Sant Cynhaiarn (hefyd Eglwys Sant Cynhaearn ac weithiau Ynys Cynhaearn) yn 2003 pan roddwyd hi ar lês i Friends of Friendless Churches (Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill).
Mae'r eglwys wedi'i lleoli ar godiad bychan o dir a arferai fod yn ynys ar Llyn Ystumllyn, tua cilometr i'r de o Bentrefelin, Gwynedd, Cymru. Fe'i chofrestrwyd gan Cadw fel adeilad cofrestredig Gradd II*. Mae'r ffordd sy'n arwain i'r eglwys ychydig yn uwch na'r caeau o'i phoptu - dyma'r hen ffordd Ganoloesol a oedd yn ffinio gydag ochr yr hen lyn. Mae'r eglwys yn fwyaf nodedig am fod yn fan claddu Dafydd y Garreg Wen, ('Dafydd Ŵan' ar lafar, neu neu 'David Owen' ar ei dystysgrif geni). Hyd yn ddiweddar cysegrwyd yr eglwys i Sant Cynhaiarn.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dolbenmaen |
Sir | Dolbenmaen |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 8.7 metr |
Cyfesurynnau | 52.9262°N 4.19443°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sioraidd |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Cysegrwyd i | Cynhaiarn |
Manylion | |
Ceir olion cytiau hirion o’r Canol Oesoedd cynnar i'r de-orllewin o'r eglwys.
Cyn sefydlu tref Porthmadog, sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd, dyma oedd Eglwys Plwyf yr ardal. Mae corff yr eglwys yn dyddio'n ôl i'r 12g, ac ychwanegwyd yr adain ogleddol yn y 16g. Yn 1622 y codwyd yr adain ddeheuol. Mae'r rhan fwyaf o'r dodrefn mewnol yn perthyn i arddull y cyfnod Siorsaidd ac yn mynd nôl i 1832. Yn y 2010au tynnwyd y mortar hyll oddi ar wal gorllewinol yr eglwys a datgelwyd gwaith carreg arbennig o grefftus.
Gwnaed y pulpud teirllawr hynod yn 1832. Symudwyd yr organ Gothig fawr yma (a wnaed gan 'Flight & Robson') yn 1854 o Dremadog. Mae'r fedyddfaen yn gymharol newydd (1900) ac ni wyddys beth yw hynt a helynt yr hen fedyddfaen. Ceir yma neuadd fechan iawn a gynlluniawyd gan Clough Williams-Ellis yn 1937. Ceir sawl ffenestr liw i goffáu cyn-aelodau'r eglwys ac eraill megis morwyr, ac yn eu plith y mae ffenest i 'Bêr Ganiedydd Israel' yn canu'r delyn er cof am Alltud Eifion, a anwyd ym mhlwyf Cynhaiarn. Gwnaed ambell ffenest gan James Powell a'i fab rhwng 1899 a 1906. Mae ffenestr arall yn cynnwys llun o Sant Cynhaiarn.
Yma y claddwyd Dafydd y Garreg Wen yn 29 oed yn 1749, a nodir hynny ar ei garreg fedd, gyda llun bychan o delyn wedi'i gerfio ar wyneb y lechen. Ar y garreg mae'r ysgrifen: "BEDD DAVID OWEN, neu Ddafydd y Garreg Wen. y Telynor rhagorola gladdwyd 1749 yn 29 oed."
Yma hefyd y claddwyd awdur Cell Meudwy, y beirniad llenyddol a'r hynafieithydd Ellis Owen, Cefnymeysydd (31 Mawrth 1789 - 27 Ionawr 1868) a drigai gyda'i fam a'i chwiorydd mewn fferm gerllaw; ef sgwennodd yr englyn uchod i Dafydd. Yma hefyd y claddwyd y bardd John Williams (Ioan Madog). Yma hefyd y claddwyd John Ystumllyn (neu Jack Black), sef dyn du ei groen a chyn-gaethwas o Affrica a gladdwyd yma yn niwedd y 18g. Roedd yn ffasiynol yr adeg honno i gyflogi gwas croenddu yn y tŷ, a dyna a wnaeth teulu'r Wynniaid, o Dŷ Ystumllyn. Priododd Jack i deulu lleol a chafodd 7 o blant. Yn ôl Cadw, dyma'r dyn du cyntaf i ddod i Gymru. Ymhyfryda llawer o bobl leol heddiw (2014) eu bod yn perthyn iddo.
Ceir yma hefyd gofeb ar ffurf wrn i deulu James Spooner, y syrfewr hwnnw a adeiladodd Reilffordd Ffestiniog; mae'r wrn enfawr wedi'i amgylchynu gan ffens haearn, tua 6 metr i'r de o ddrws yr eglwys.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eglwys Sant Cynhaiarn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.