Sant o’r 7g yw Cynhaiarn neu Cynhaern a oedd yn nawddsant Eglwys Sant Cynhaiarn, Ynys Ystumllyn ger Cricieth, Gwynedd.
Dywedir ei fod yn fab i Hygarfael ap Cyndrwyn o Gaereinion, Powys a’i fod yn frawd i’r seintiau Aelhaiarn (neu Aelhaearn) a Llwchaiarn (Llanllwchaiarn). Roedd yn gefnder i Sant Beuno.
Cynhaiarn | |
---|---|
Ffenestr liw o ddechrau'r 20fed ganrif gyda llun o Sant Cynhaiarn. | |
Ganwyd | 7 g Caereinion, Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 7 g |
Ni wyddom pa bryd oedd ei ddydd Gŵyl.
Yr unig eglwys y gwyddom yn bendant sydd wedi'i gysegru iddo ydy Eglwys Sant Cynhaiarn, ger Cricieth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cynhaiarn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.