Awdures Americanaidd o linach Gymreig oedd Edith Wharton neu i'w ffrindiau: Pussy Jones (24 Ionawr 1862 - 11 Awst 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, bardd, cyfieithydd ac awdur rhyddiaith.
Roedd o deulu cyfoethog iawn o Efrog Newydd a disgrifiodd y gymdeithas honno yn ei llyfrau. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Pulitzer am lenyddiaeth, a hynny yn 1921 a'r Hall of Fame yn 1996.
Edith Wharton | |
---|---|
Ganwyd | Edith Newbold Jones 24 Ionawr 1862 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 11 Awst 1937 Saint-Brice-sous-Forêt |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd, The Mount, Castel Sainte-Claire |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, bardd, cyfieithydd, rhyddieithwr, hanesydd celf |
Adnabyddus am | The Mount, The Age of Innocence, The Touchstone, The House of Mirth, The Reef, The Custom of the Country, Summer, Roman Fever, The Decoration of Houses, The Greater Inclination, Crucial Instances, Old New York |
Arddull | nofel ramant |
Prif ddylanwad | Henry James, Vernon Lee |
Tad | George Frederic Jones |
Mam | Lucretia Stevens Rhinelander |
Priod | Edward Robbins Wharton |
Perthnasau | Mary Mason Jones |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Pulitzer am Ffuglen |
llofnod | |
Ganed Edith Newbold Jones yn Ninas Efrog Newydd ar 24 Ionawr 1862; George Frederic Jones a Lucretia Stevens Rhinelander oedd ei rhieni. Dywedir fod y dywediad Saesneg "keeping up with the Joneses" yn wreiddiol yn cyfeirio at deulu ei thad.
Ganed a maged Wharton yn ystod y Rhyfel Cartref America (1861–1865); er nad yw Wharton ei hun, tra'n disgrifio bywyd ei theulu, nid yw'n crybwyll y Rhyfel - ac eithrio bod eu teithiau i Ewrop ar ôl y Rhyfel yn ganlyniad i ddibrisio arian cyfred America. O 1866 i 1872, ymwelodd y teulu Jones â Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen a Sbaen. Yn ystod ei theithiau, daeth yr Edith ifanc yn rhugl mewn Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg. Pan oedd yn naw oed, dioddefodd o dwymyn y teiffoid, a fu bron â'i lladd hi.
Bu farw yn Saint-Brice-sous-Forêt o strôc ac fe'i claddwyd yn Cimetière des Gonards.
Yn 15 oed, ymddangosodd cyhoeddodd gyfieithiad o gerdd Almaeneg "Was die Steine Erzählen" ("Yr Hyn a Ddywed y Cerrig") gan Heinrich Karl Brugsch, y talwyd iddi $50. Nid oedd ei theulu am i'w henw ymddangos mewn print gyda'r gerdd, gan nad oedd ysgrifennu yn cael ei ystyried yn alwedigaeth briodol i fenyw o gymdeithas ei chyfnod.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Mount, The Age of Innocence, The Touchstone, The House of Mirth, The Reef, The Custom of the Country, Summer, Roman Fever, The Decoration of Houses, The Greater Inclination, Crucial Instances a Old New York.
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.
Ffynhonnell: Campbell, Donna M. "Works by Edith Wharton". Washington State University. Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.
Nofelau
Nofelau bychan
Cerddi
| Storiau byrion
Ffeithiol
Golygydd
|
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edith Wharton, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.