Duffy: Actores a chyfansoddwr a aned yn 1984

Cantores soul Gymreig o Nefyn yw Aimee Anne Duffy (yn syml Duffy; ganwyd 23 Mehefin 1984).

Daeth yn ail yn y rhaglen Wawffactor ar S4C yn 2003, a chafodd sylw ddiwedd 2007 a 2008 pan gafodd ei galw'n 2il ganwr/gantores gorau Sound of 2008 y BBC. Mae hi wedi perfformio ar raglenni fel Later With Jules Holland, gan dderbyn canmoliaeth uchel iawn ac hyd yn oed wedi ei chymharu â'r gantores Dusty Springfield. Rhyddhaodd ei halbwm Rockferry ym Mawrth 2008 yn y Deyrnas Unedig ac wedyn dros y byd. Yn Chwefror 2008 cyrhaeddodd Rhif 1 yn y siartiau Prydeinig gyda'i sengl Mercy. Roedd yr albwm yn llwyddiant ysgubol, yn cyrraedd rhif 1 dros Ewrop ac Ynysoedd y De. Bu'r albwm yn llwyddiant mawr yng Ngogledd America hefyd, yn cyrraedd rhif 4 yn siart albwmiau yr Unol Daleithiau.

Duffy
Duffy: Bywyd personol, Albymau, Aelodaur band
GanwydAmie Ann Duffy Edit this on Wikidata
23 Mehefin 1984 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Label recordioA&M Records, Polydor Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Caer Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, cyfansoddwr, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, rhythm a blŵs, y felan Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.iamduffy.com/ Edit this on Wikidata

Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddwyd y byddai Duffy yn hysbysebu Diet Coke wedi iddi arwyddo cytundeb o dros £100,000.

Bywyd personol

Bu Duffy yn caru gyda Mark Durston, a anwyd yn Swydd Gaer am dros bum mlynedd tan fis Tachwedd 2006. Roedd Duffy yn byw yn Abersoch gydag ef.

Ym mis Medi 2008, soniodd Duffy ei bod "ar ffin cael chwalfa nerfus" oherwydd y pwysau yr oedd enwogrwydd wedi rhoi arni. Dywedodd ei bod wedi ystyried dod yn feudwy, ond yn y pen draw penderfynodd yn erbyn y syniad er mwyn ei chefnogwyr. Er ei bod yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn dda, roedd yn ei chael hi'n "frawychus" pan fydd pobl yn ei hadnabod ar y stryd, ac wedi bod yn ofni bod ei delwedd o bosibl yn newid y person y mae hi go iawn.

Gyda ffortiwn amcangyfrifedig Duffy o £4 miliwn fe'i gosodwyd hi yn yr 16eg safle yn rhestr y Sunday Times 2009 o gerddorion ifanc cyfoethocaf Prydain Fawr.

Bu'n caru gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Mike Phillips, o fis Medi 2009 i fis Mai 2011.

Ar 3 Hydref 2012, dihangodd Duffy o dân yn y fflat penthouse ar rent yr oedd hi'n byw ynddo, Abbots House yn Kensington, Llundain.

Ar 25 Chwefror 2020, dywedodd ar bost Instagram ei bod wedi cael ei "threisio, rhoi dan gyffur ac wedi ei dal yn wystl dros rai dyddiau" a'i bod wedi diflannu o fywyd cyhoeddus er mwyn iddi adfer o'r profiad, gan ychwanegu ei bod bellach yn gwneud yn dda ond ei bod wedi cymryd ei hamser i wella. Yn ei chyfrif, ni roddodd unrhyw arwydd pwy oedd ei hymosodwr na sôn pryd na ble y digwyddodd yr ymosodiad.

Albymau

  • Rockferry (2008)
  • Endlessly (2010)

Aelodau'r band

  • Aimee Duffy: llais
  • Bernard Butler: gitâr, piano, offerynnau taro
  • Makoto Sakamoto: drymiau
  • David McAlmont: llais
  • Tobi Oyerinde: gitâr
  • Ayo Oyerinde: allweddellau
  • Tom Meadows: drymiau
  • Ben Epstein: gitâr fâs
  • Jon Green: gitâr
  • Josh McKenzie: offerynnau taro

Cyfeiriadau

Duffy: Bywyd personol, Albymau, Aelodaur band Duffy: Bywyd personol, Albymau, Aelodaur band  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Duffy Bywyd personolDuffy AlbymauDuffy Aelodaur bandDuffy CyfeiriadauDuffy198423 MehefinBBCDusty SpringfieldEwropGogledd AmericaNefynS4CUnol DaleithiauWawffactorYnysoedd y De

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Peiriant WaybackYr AlmaenMorgrugynLlumanlongRhaeGwyWordPressStockholmThe JerkY Rhyfel Byd CyntafLlyffantCaerdyddJonathan Edwards (gwleidydd)FfloridaYr Ymerodraeth AchaemenaiddCyfathrach rywiolAwstraliaLakehurst, New JerseyRhannydd cyffredin mwyafPen-y-bont ar OgwrBangaloreSex TapeWeird WomanMarion BartoliDant y llewUnicodeGroeg yr HenfydThomas Richards (Tasmania)WingsDoc PenfroAnna MarekRicordati Di MeTywysogThe Mask of ZorroAberdaugleddauBeach PartyRhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn yr AlbanHanover, MassachusettsPrifysgol RhydychenConnecticutNapoleon I, ymerawdwr FfraincAlfred JanesMaria Anna o SbaenThe World of Suzie WongY WladfaIRCCarles PuigdemontGwyddoniaethBoerne, TexasZeusSam TânMorfydd E. OwenMeddAlbert II, tywysog MonacoNəriman NərimanovDen StærkesteTriongl hafalochrogAndy SambergY Ddraig GochTransistorPidynFort Lee, New JerseyWicidataSevillaDisturbia1739InjanThe JamCERNMacOSEdwin Powell HubbleRobin Williams (actor)Siot dwad wyneb🡆 More