Ffilm gyntaf yng nghyfres James Bond ydy Dr.
No (1962), a'r ffilm gyntaf i serennu Sean Connery fel yr asiant cudd ffuglennol i MI6 James Bond. Seiliwyd y ffilm ar y nofel o 1958 Dr. No gan Ian Fleming. Cafodd y nofel ei addasu gan Richard Maibaum, Johanna Harwood a Berkeley Mather ar gyfer y sgrîn fawr. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Terence Young a'i chynhyrchu gan Harry Saltzman a Albert R. Broccoli, mewn partneriaeth a barodd tan 1975.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Terence Young |
Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
Ysgrifennwr | Ian Fleming |
Addaswr | Richard Maibaum Johanna Harwood Berkely Mather |
Serennu | Sean Connery Joseph Wiseman Ursula Andress Jack Lord John Kitzmiller |
Cerddoriaeth | Monty Norman |
Sinematograffeg | Ted Moore |
Golygydd | Peter R. Hunt |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | United Artists |
Amser rhedeg | 110 munud |
Gwlad | DU |
Iaith | Saesneg |
Yn y ffilm, danfonir Bond i Jamaica er mwyn ymchwilio i mewn i farwolaeth asiant Prydeinig. Aiff Bond ar drywydd Dr. Julius No sy'n byw ar ynys bellenig. Darganfydda Bond fod cynllwyn gan Dr. No i rwystro arbrofion rocedi Americanaidd a llwydda Bond i atal y cynllwyn hwn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dr. No (ffilm), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.