Cyfrifiadurwr a mathemategydd Americanaidd yw Donald Ervin Knuth (ynganiad: /kəˈnuːθ/; ganwyd 10 Ionawr 1938).
Mae ei waith ynghlŷn â'r dadansoddiad o algorithmau wedi bod yn eithriadol o bwysig. Mae ganddo enw rhyngwladol ac mae wedi derbyn nifer mawr o wobrau ac anrhydeddau o sefydliadau ysgolheigaidd, gan gynnwys y Wobr Turing (1974).
Donald Knuth | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ionawr 1938 Milwaukee |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, hanesydd mathemateg, ysgrifennwr, rhaglennwr, academydd, peiriannydd, academydd, dylunydd math |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | TeX, Metafont, The Art of Computer Programming, Computer Modern, WEB, CWEB, literate programming |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd Turing, IEEE John von Neumann Medal, Gwobr Harvey, Medal Genedalethol Gwyddoniaeth, Gwobr Faraday, Gwobr Grace Murray Hopper, Darlithoedd Josiah Willard Gibbs, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Turing Talk, Cymrawd Amgueddfa Hanes y Cyfrifiadur, Medal Franklin, Kyoto Prize in Advanced Technology, ACM Software System Award, Gwobr W. Wallace McDowell, Paul R. Halmos - Lester R. Ford Awards, Gwobr Sefydliad 'Frontiers of Knowledge' BBVA, Gwobr Leroy P. Steele, Darlith John von Neumann, honorary doctor of ETH Zürich, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Tübingen, ACM Fellow, Fellow of the Society for Industrial and Applied Mathematics, Fellow of the British Computer Society, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, honorary doctorate of the Masaryk University, Fellow of the American Mathematical Society |
Gwefan | https://www-cs-faculty.stanford.edu/~knuth |
Ei waith pwysicaf yw The Art of Computer Programming, sy'n llyfr aml-gyfrol enfawr y cyhoeddwyd y rhannau cyntaf ohonynt ym 1968, ond sydd yn anghyflawn (2022) er ei fod yn parhau i lafurio yn ddiwyd arno, ac yn cyhoeddi rhannau newydd yn rheolaidd.
Yn ogystal â'i gyfraniadau sylfaenol mewn sawl maes cyfrifiadureg ddamcaniaethol, Knuth yw crëwr y system cysodi cyfrifiadurol TeX (a ddefnyddir yn helaeth ym maes cyhoeddi gwyddonol), y system ffont gysylltiedig METAFONT, a'r teulu o ffurfdeipiau Computer Modern.
Mae'n athro emeritws ym Mhrifysgol Stanford, Califfornia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Donald Knuth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.