Ffermwr a rhedwr pellter hir yw Dewi Griffiths (ganwyd 8 Medi 1991).
Dewi Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 9 Awst 1991 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rhedwr, ffermwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Magwyd Dewi ar fferm Pantydderwen yn Llanfynydd ger Llandeilo. Aeth i astudio astudio mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n parhau i weithio ar fferm ei rieni tra'n cystadlu fel athletwr.
Roedd yn mwynhau rhedeg ers ei fod yn blentyn, gan ymarfer ar lonydd cefn o gwmpas ardal Llandeilo. Bu'n rhedeg gyda thîm yr ysgol cyn ymuno â chlwb rhedeg Harriers Caerfyrddin gan gystadlu mewn rasys traws gwlad, ffordd a thrac. Mae'n cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a British Athletics.
Mae'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Cymru a roedd yn fuddugol saith gwaith rhwng 2012 a 2019. Ni gystadlodd yn 2018 oherwydd anaf.
Ei farathon cyntaf oedd yn Frankfurt yn 2017. cystadlodd yn Marathon Llundain am y tro cyntaf yn 2018 ac yn 2019 daeth yn y 16eg safle yn ras y dynion. Ei amser oedd dwy awr ac 11 munud, saith munud tu ôl i Mo Farah.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dewi Griffiths, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.