Bardd Cymraeg oedd Daniel James (23 Ionawr 1848 – 11 Mawrth 1920), a gyhoeddai dan ei enw barddol Gwyrosydd.
Ef biau'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' a gennir gan amlaf ar yr emyn-don 'Calon Lân'.
Daniel James | |
---|---|
Ffugenw | Gwyrosydd |
Ganwyd | 23 Ionawr 1848 Treboeth |
Bu farw | 16 Mawrth 1920 Treforys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, pwdler haearn |
Brodor o bentref Treboeth, Abertawe oedd Gwyrosydd. Bu'n gweithio fel torrwr beddau yn Aberpennar am gyfnod, yng ngwaith haearn Treforys ac mewn pwll glo yn Nowlais. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Mynydd Bach, Abertawe.
Cyfansoddodd nifer o gerddi poblogaidd a gyhoeddwyd mewn cylchgronau fel darnau adrodd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Caneuon Gwyrosydd ac Aeron Awen Gwyrosydd. Nid oes gwerth llenyddol parhaol i'r cerddi hyn, sy'n nodweddiadol o ganu poblogaidd y cyfnod, ond mae ei gerdd sy'n dechrau gyda'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' (cyhoeddwyd yn 1892) yn gyfarwydd o hyd fel geiriau'r emyn-don 'Calon Lân'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daniel James (Gwyrosydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.