Cyfiawnder

Cysyniad ym meysydd cyfreitheg, athroniaeth wleidyddol a moeseg yw cyfiawnder sy'n ymwneud â thrin person yn deg, yn foesol, ac yn amhleidiol.

Yr ystyr athronyddol yw cymesuredd briodol rhwng haeddiant yr unigolyn a'r pethau drwg a da mae'r unigolyn yn ei dderbyn. Mae cyfiawnder yn gysyniad sylfaenol o fewn y rhan fwyaf o systemau cyfreithiol gan ddilyn gwerthoedd a thraddodiadau cymdeithasol. Mae cyfiawnder cymdeithasol yn crybwyll trefn gyfiawn y tu allan i'r llysoedd barn. Ystyrir cyfiawnder yn nodwedd neu amcan hanfodol i'r wladwriaeth. O safbwynt y pragmatydd, cyfiawnder yw'r enw am ganlyniad teg. Yn ei gyd-destun crefyddol, cydymffurfio â deddf Duw yw ystyr cyfiawnder sy'n cynnwys uniondeb rhwng dyn a'i gymydog.

Cyfiawnder
Cerflun yr Arglwyddes Gyfiawn, symbol cyfiawnder.

Syniadaeth Aristotlys sy'n sail i'r mwyafrif o drafodaethau Gorllewinol am gyfiawnder. Disgrifiodd natur rinweddol a dibenyddol cyfiawnder. Aeth meddylwyr ers hynny i'r afael â chyfiawnder drwy wahanol ddulliau ac agweddau, ac yn adlewyrchu amryw o ideolegau a systemau meddwl. Pwysleisiodd rhinwedd cyfiawnder gan nifer o ddilynwyr Aristotlys a cheidwadwyr. Datblygodd Immanuel Kant athroniaeth dyletswyddeg a'r gorchymyn diamod: rheol foesol mae'n rhaid i bawb ufuddhau iddi er gwaethaf y cymhelliad neu'r canlyniad. Dadleuodd y defnyddiolwyr cyntaf, Jeremy Bentham a John Stuart Mill, taw'r lles cyffredin yw'r unig ystyriaeth parthed cyfiawnder. Lluniodd John Rawls yr egwyddor wahaniaethol, sy'n gosod tegwch yn sail i'w drefn gyfiawnder. Nod syniadau rhyddfrydol a chymunedol megis gwaith Rawls yw ceisio gwrthbwyso'r effaith sydd gan ffawd economaidd a grym gwleidyddol ar ein cymdeithas. Gwrthodwyd hyn gan rhyddewyllyswyr megis Robert Nozick: rhyddid yr unigolyn a hunanberchenogaeth yw sail cymdeithas ac felly'r drefn gyfiawnder yn ôl nhw.

Ceir nifer o fathau o gyfiawnder mewn penydeg a damcaniaeth gyfreithiol. Atal ail-droseddu yw amcan cyfiawnder adferol, a thrin y drosedd o safbwynt y dioddefwr a'r gymuned yn hytrach na'r wladwriaeth. Pwrpas y system gyfiawnder yw i gosbi'r drwgweithredwr yn ôl cyfiawnder dialgar.

Cyfeiriadau

Darllen pellach

  • Michael J. Sandel. Justice: A Reader (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2007).
  • Michael J. Sandel. Justice: What's the Right Thing to Do? (Penguin, 2010).

Dolenni allanol

Chwiliwch am cyfiawnder
yn Wiciadur.

Tags:

AmhleidioldebAthroniaeth wleidyddolCrefyddCyfiawnder cymdeithasolCyfreithegGwladwriaethMoesegMoesoldebPragmatiaethY gyfraith

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Sisters of AnarchyRheolaethMy Favorite Martian (ffilm)Gina GersonLe CorbusierCoca-ColaLibanusThe Great Ecstasy of Robert CarmichaelTrosiadDiary of a Sex AddictWiciSefydliad di-elwMons venerisThe Public DomainCynnwys rhydd29 TachweddArddegau25 MawrthBerfSecret Society of Second Born RoyalsLes Saveurs Du PalaisAthroniaethOutlaw KingNewynGwainSimon BowerAlldafliad benywLos Chiflados Dan El GolpeEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Oprah WinfreyCalmia llydanddailMalariaLouis PasteurY Derwyddon (band)CyfunrywioldebArdal y RuhrCastell BrychanYsgol y MoelwynAlwminiwmMilanSylffapyridinHollt GwenerGaztelugatxe1968Orlando BloomMane Mane KatheEisteddfod Genedlaethol CymruJava (iaith rhaglennu)NitrogenYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrLaboratory ConditionsDestins ViolésCyfalafiaethApollo 11WashingtonCatahoula Parish, LouisianaSafleoedd rhywThomas KinkadeTechnoleg gwybodaethAlpauTony ac AlomaEl Complejo De FelipeGwenno HywynHaearnSaesnegYnys MônSir BenfroMatka Joanna Od AniołówHTMLPussy Riot🡆 More