Mae Cwm Tawe (Saesneg:Swansea Valley), yn un o gymoedd De Cymru, sy'n cynnwys rhannau uchaf Afon Tawe i'r fyny cwrs yr afon o Abertawe, Cymru.
Erbyn heddiw, rhennir yr ardal rhwng Dinas a Sir Abertawe, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Phowys.
Math | dyffryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7593°N 3.7898°W |
Mae trefi a phentrefi nodedig yn yr ardal yn cynnwys Clydach, Pontardawe, Ystradgynlais, Ystalyfera ac Abercraf.
Yn y ddogfen Towards a Valleys Strategy (Medi 2005), nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fod gwahaniaeth amlwg rhwng rhai o gymunedau mwyaf anghysbell Ystalyfera ac ar hyd dyffrynoedd Twrch ac Amman â chymunedau deheuol cymharol lewyrchus Pontardawe, Alltwen, Rhos, a Threbannws. Gwasanaethir yr ardal gan yr heol A4067 Abertawe-Aberhonddu, ond nid oes gwasanaethau trên yno ers i linell Rheilffordd y Midland rhwng Abertawe a Brynaman (trwy Ystalyfera) gau ym 1952.
Lleolir Ogofâu Dan yr Ogof yn rhan uchaf Cwm Tawe a dywedir mai dyma'r cyfres fwyaf o ogofâu yng Ngorllewin Ewrop. I'r de o Abercraf, arferai'r ardal fod yn ddiwydiannol iawn gyda phyllau glo a'r diwydiant haearn. O ganlyniad, mae llawer o dreftadaeth diwydiannol yn bodoli yno o hyd; adeiladwyd Camlas Abertawe ar hyd y cwm ar ddiwedd y 18g er mwyn gwasanaethu'r diwydiannau trwm hyn. Ym 1878, symudodd y gantores opera Adelina Patti i Gastell Craig-y-nos.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cwm Tawe, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.