Bywgraffiad neu Cofiant yw hanes bywyd unigolyn wedi'i ysgrifennu gan rywun arall (mae hunangofiant yn hanes unigolyn yn ei eiriau ei hun).
Gelwir awdur sy'n ysgrifennu cofiannau yn 'gofianwr'.
Mae'n ffurf lenyddol bwysig ag iddi hanes hir. Ymhlith y cofiannau cynharaf yw'r gyfres o hanesion am enwogion yr Henfyd gan yr awdur Rhufeinig Plutarch a llyfr Suetonius ar hanes deuddeg o ymerodron Rhufeinig.
Y cofiant cynharaf yn y Gymraeg yw cofiant Thomas Charles o'r Bala gan Thomas Jones (Dinbych).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cofiant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.