Chwyldro Libia

Rhyfel chwyldroadol a ymladdwyd yn 2011 i ddymchwel llywodraeth Muammar al-Gaddafi oedd Chwyldro Libia (Arabeg: الثورة الليبية‎).

Wedi'r chwyldroadau yn Nhiwnisia a'r Aifft yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cychwynnodd cyfres o brotestiadau yn Libia i alw am arweinyddiaeth newydd ac etholiadau democrataidd. Dechreuodd y gwrthryfel yn sgil gwrthdrawiadau rhwng protestwyr a'r lluoedd diogelwch yn Benghazi ar 15 Chwefror 2011. Ymhen wythnos, ffrwydrodd ymladd mewn sawl dinas a brwydrodd Gaddafi i gadw ei reolaeth dros y wlad. Ymatebodd Gaddafi gyda grym milwrol a mesurau eraill megis sensoriaeth ac ataliadau ar gyfathrebu. Cyhuddwyd ef o recriwtio hurfilwyr tramor yn sgil gwrthgilio ymhlith ei luoedd. Cynigodd Gaddafi i gynnal trafodaethau ag arweinwyr y gwrthwynebiad trwy gynrychiolydd, ond gwrthododd y gwrthryfelwyr i drafod â Gaddafi a galwyd arno i ymddiswyddo a gadael y wlad.

Chwyldro Libia
Chwyldro Libia
Hen faner Brenhiniaeth Libia, a atgyfodwyd fel symbol gan y gwrthryfelwyr.
Enghraifft o'r canlynolrhyfel cartref, rhyfel chwyldroadol Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd, Libyan Crisis Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadLibia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ehangodd y gwrthryfel i wrthdaro arfog, gyda gwrthryfelwyr yn sefydlu clymblaid o'r enw'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol a seiliwyd yn Benghazi. Rhybuddiodd y Llys Troseddol Rhyngwladol y gall Gaddafi ac aelodau o'i lywodraeth wedi cymryd rhan mewn troseddau yn erbyn dynoliaeth. Pasiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn rhewi asedau Gaddafi a deg aelod o'i gylch mewnol, a chyfyngu ar eu gallu i deithio. Ar ddechrau Mawrth ail-gipiodd lluoedd Gaddafi nifer o ddinasoedd arfordirol yn nwyrain Libia cyn ymosod ar Benghazi. Awdurdodwyd gwaharddiad hedfan dros Libia gan benderfyniad arall, i'w weithredu gan aelod-wladwriaethau'r CU. Datganodd llywodraeth Gaddafi cadoediad, ond methodd i'w gadw. Dechreuodd clymblaid o wladwriaethau i weithredu'r gwaharddiad hedfan ar 19 Mawrth trwy analluogi amddiffyniadau awyr Gaddafi.

Ym mis Awst cychwynnodd y gwrthryfelwyr ymgyrch ymosodol ar hyd arfordir Libia, gan gipio'r brifddinas Tripoli. Ar 16 Medi cydnabuwyd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol gan y Cenhedloedd Unedig fel cynrychiolydd Libia yn lle llywodraeth Gaddafi. Cafodd Gaddafi ei ddal a'i ladd yn ei ddinas enedigol Sirt ar 20 Hydref, a datganodd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol ddiwedd y rhyfel ar 23 Hydref 2011. Er i'r chwyldro lwyddo, hon oedd ond y rhan gyntaf o gyfnod hir o ansefydlogrwydd yn Libia, a ddilynwyd gan frwydro rhwng y llywodraeth newydd a milisiâu (2011–14), rhyfel cartref ar raddfa eang (2014–20), argyfwng ffoaduriaid, rhagor o brotestiadau (2020), a gwrthdrawiadau yn Tripoli (2022–23).

Cyfeiriadau

Tags:

Arabic languageBenghaziChwyldroChwyldro TiwnisiaChwyldro'r Aifft (2011)Muammar al-GaddafiRhyfelSensoriaethY Gwanwyn Arabaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Scotts Bluff County, NebraskaWar of the Worlds (ffilm 2005)The Iron GiantWashington, D.C.Cass County, NebraskaMike PompeoOlivier MessiaenGertrude BaconJefferson County, NebraskaPRS for MusicTeaneck, New JerseyClifford Allen, Barwn 1af Allen o HurtwoodPoinsett County, ArkansasY Cyngor PrydeinigWilliam Jones (mathemategydd)Francis AtterburyRhestr o Siroedd OregonDubaiLlanfair PwllgwyngyllColeg Prifysgol LlundainPalais-RoyalRoger AdamsPreble County, OhioYnysoedd Cook1918AmffibiaidYulia TymoshenkoDugiaeth CernywHumphrey LlwydY Sgism OrllewinolGorbysgotaWashington County, NebraskaSex & Drugs & Rock & RollPhilip AudinetSaesnegZeusTbilisiMakhachkalaEnrique Peña NietoIstanbulBahrainSeollalTwrciClorothiasid SodiwmLouis Rees-ZammitLewis HamiltonJoe BidenRaritan Township, New JerseyFfilm bornograffigIsabel RawsthorneLucas County, Iowa8 MawrthElizabeth TaylorCAMK2BPhillips County, ArkansasKatarina Ivanović1995Neil ArnottGorfodaeth filwrolLynn BowlesKaren Uhlenbeck1644The Disappointments RoomSisters of AnarchyCarlwmDe-ddwyrain AsiaIesu16801992Trumbull County, OhioMahoning County, OhioThe DoorsMachu Picchu🡆 More