Dyffryn dwfn ag ochrau serth a dorrir gan afon drwy garreg gwydn, fel arfer creigwely, yw ceunant neu hafn.
Maent yn ffurfio gan amlaf mewn blaenau afonydd, lle mae nentydd cryf a gwyllt yn torri'r dyffryn yn gyflym.
Y Ceunant Mawr yn Arizona, Unol Daleithiau America, yn y fan mae Afon Fechan Colorado yn cydlifo ag Afon Colorado. | |
Math | fluvial landform, dyffryn |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurfia ceunentydd enfawr mewn crindiroedd a lled-grindiroedd gan ffrydiau cyflym, gyda nerth o lawogydd neu eira toddedig yn y rhanbarthau i fyny'r afon, sydd yn erydu pantiau culion yng nghramen y Ddaear. Mae ochrau'r ceunentydd yn serth a chonglog gan nad oes glawogydd cyffredin na thirddraeniad llethrog i dreulio'r carreg.
Ceir hefyd ceunentydd tanforol a ffurfir naill ai pan boddir gwely'r afon a'r tir o'i amgylch, neu gan gerhyntau tyrfol yn nyfnderoedd y dŵr. Cafodd y ceunentydd tanforol mwyaf—megis Ceunant Zhemchug ym Môr Bering a Cheunant Monterey ger arfordir Califfornia—eu torri yng nghramen y Ddaear yn epoc y Pleistosen (2.6 miliwn–11,700 o flynyddoedd yn ôl) pan oedd lefel y môr yn is o lawer. Mae'n debyg i gerhyntau y dyfroedd dyfnion, sydd yn cynnwys llawer o waddodion, a thirlithriadau tanforol o ddyddodion rhydd wthio'r ceunentydd hyn yn ddyfnach ar hyd lethrau cyfandirol ac ar draws yr ysgafellau cyfandirol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ceunant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.