Ceunant yng Ngalisia yw Ceunant Sil (Galiseg: Canón do Sil) a wnaed gan Afon Sil.
Y ceunant yw rhan olaf taith yr afon cyn iddi lifo mewn i Afon Minho, ac mae'n 50 km o hyd. Ystyrir yr olygfa fel un o'r rhai gorau yng Ngalisia.
Cwyd waliau'r ceunant 500m o lefel y môr - bron yn fertig ar adegau. Oherwydd y tirwedd anghyffredin, ceir yma hinsawdd tra gwahanol i'r amgylchedd o gwmpas y ceunant a cheir yma blanhigion mwy cyfandirol, fel yr olewyddan. Mae ochrau'r ceunant mewn rhai llefydd wedi'i trin gan amaethwyr a cheir terasu sy'n caniatáu i'r winwydden dyfu. Tyfir grawnwin yma ers 'cyfnod y Rhufeiniaid a gelwir yr ardal yma lle gwneir gwin yn Ribeira Sacra. Hwn yw'r unig ardal yng Ngalisia sy'n potelu y mwyaf o win coch nag o win gwyn.
Mae'r ardal wedi'i chofrestru yn Natura 2000 ac ynddi cir ardaloedd o ddiddordeb arbennig a chadwraethol - o ran anifeiliaid (dyfrgwn ac ystlumod yn arbennig), daeareg anghyffredin a phlanhigion prin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ceunant Sil, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.