Porth Romanésg Cadeirlan Santiago de Compostela ydy'r Pórtico da Gloria, sydd wedi'i leoli yng Ngalisia, un o wledydd ymreolaethol Sbaen.
Fe'i comisiynwyd gan Fernando II, brenin Castilla a León, a'i gynllunio gan Maestro Mateo a'i weithdy rhwng 1168 a 1188.
Math | portico |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Eglwys Gadeiriol Santiago de Compostela |
Sir | Santiago de Compostela |
Gwlad | Sbaen |
Cyfesurynnau | 42.880555°N 8.545138°W |
Mae'r cyfeiriad at y porth hwn i'w gael mewn dogfen a arwyddwyd gan Fernando II ar 23 Chwefror 1168, ble mae'n rhoi cyflog oes i Mateo o ddau ddarn o arian y flwyddyn am godi basilica Sant Iago – ac mae'r ddogfen i'w chael heddiw yn amgueddfa'r gadeirlan. Ymgorfforwyd claddgell i gynnal y porth; roedd hyn hefyd yn pontio'r lloriau anwastad rhwng y llawr a phrif sgwâr yr eglwys, sef y Plaza del Obradoiro.
Ar 1 Ebrill 1188 y codwyd y garreg gyntaf, a gorffennwyd y gwaith yn 1211 pan gysgegrwyd y deml ym mhresenoldeb y brenin Alfonso IX.
Symudwyd rhai o'r cerfluniau i ffasâd y gadeirlan yn y 18g a gwelir rhai ohonynt heddiw yn yr amgueddfa. Yn ychwanegol at hyn, nid ôl llaw y Maestro Mateo yn unig sydd yma, yn wir credir fod o leiaf pedwar cerflunydd wedi ymwneud â'r gwaith.
Yn nhraddodiad gorau yr arddull Romanésg, gorchuddiwyd y gwaith yn wreiddiol gan beintiadau cywrain: mewn du, gwyn, coch, glas ac aur. Ceir cofnodion sy'n dangos i'r paentiadau hyn gael eu goreuro a'u gwella yn y 15fed a'r 16g ac yna gan Crispin Evelino yn 1651. Derbyniodd Evalino 130 ducat am ei waith y flwyddyn honno.
Yn 1866 comisiynodd Amgueddfa De Kensington yn Llundain (rhagflaenydd Amgueddfa Victoria ac Albert) yr Eidalwr Domenico Brucciani i wneud copi plastr o'r Porth a chredir i hyn ddileu nifer o luniau (neu peintiadau) cywrain a gwerthfawr. Credir hefyd fod y lleithder yn yr aer hefyd yn rhannol gyfrifol am ddifetha'r lluniau. Yn 2006 dechreuwyd ar y gwaith o'u hadfer.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pórtico da Gloria, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.