Castell i'r gogledd o bentref Rhaglan yn Sir Fynwy, Cymru, yw Castell Rhaglan (neu Castell Ysgiwfrith).
Mae'n nodweddiadol o gestyll y canol oesoedd hwyr. Mae ei wreiddiau yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif ond mae'r gweddillion sydd i'w gweld yno heddiw yn dyddio o'r bymthegfed ganrif ymlaen. Mae'n debygol i'r castell gwreiddiol ddilyn cynllun castell mwnt a beili, fel nifer o gestyll eraill yr ardal a'r cyfnod; mae rhai olion yr hanes cynnar hwn i'w gweld yno o hyd. Roedd y castell ar ei gryfaf a'i fwyaf ysblennydd yn ystod y 15g a'r unfed ganrif ar bymtheg pan oedd yn un o gestyll y Mers o dan berchnogaeth y teulu Herbert. Daeth ei chwalfa ar ddiwedd un o warchaeoedd hiraf Rhyfel Cartref Lloegr.
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhaglan |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 59.6 metr |
Cyfesurynnau | 51.770297°N 2.850063°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM005 |
Dechreuwyd adeiladu'r castell presennol ym 1435 ar gyfer Syr William ap Thomas, a briododd etifeddes Rhaglan, Elizabeth Bloet, ym 1406. Ar farwolaeth Syr William, cymerodd ei fab, William Herbert, y gwaith o'i adeiladu. Mae dadlau'n parhau ynglŷn â pha un sy'n gyfrifol am adeiladu'r Tŵr Mawr, nodwedd amlycaf y castell presennol. Yn ddiweddarach yn yr 16g, trawsnewidiwyd y castell yn blasty crand gan y teulu Somerset, Ieirll Caerwrangon ar y pryd (Ardalyddion Caerwrangon yn ddiweddarach), a etifeddodd Faenor Rhaglan drwy briodas.
Defnyddiwyd Castell Rhaglan fel lleoliad ffilmio ar gyfer ffilm Led Zeppelin, The Song Remains the Same a ffilm Terry Gilliam, Time Bandits.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell Rhaglan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.