Y Camino de Santiago (Ffordd Sant Iago) yw'r enw Sbaeneg am rwydwaith o lwybrau ar draws Sbaen, Ffrainc a gwledydd eraill yn Ewrop, yn arwain i ddinas Santiago de Compostela yn Galicia, lle cedwir gweddillion honedig yr apostol Iago fab Sebedeus.
Math | pilgrims' way, llwybr troed pell |
---|---|
Enwyd ar ôl | Iago fab Sebedeus |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Cyfesurynnau | 42.880561°N 8.543889°W |
Statws treftadaeth | Bien de Interés Cultural |
Manylion | |
O tua'r flwyddyn 814, gyda darganfyddiad gweddillion yr apostol yn Santiago, a chyda chefnogaeth Siarlymaen, tyfodd Santiago yn gyrchfan boblogaidd dros ben i bererinion ar draws Ewrop. O'r 11g ymlaen, Santiago de Compostela oedd y gyrchfan bwysicaf i bererinion ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw, yn enwedig y rhan o'r camino francés, "ffordd y Ffrancwyr", sy'n arwain o Roncesvalles yn Navarra ar draws gogledd Sbaen i Santiago de Compostela.
Cyhoeddwyd y Camino yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Camino de Santiago, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.