Franchise cyfres o gemau fideo antur person-cyntaf a ddatblygwyd gan nifer o gwmniau, ac a enillodd un o brif wobrau Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn yn 2003 yw Call of Duty; dyma brif wobr y diwydiant gemau fideo, a gyflwynir yn flynyddol yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau (Game Developers Conference (GDC)).
Datblygwyd y gêm gan Infinity Ward (2003–presennol), Treyarch (2005–presenn) a Sledgehammer Games (2011–presennol). Y datblygwr gwreiddiol oedd Infinity Ward a'r cyhoeddwr oedd Activision.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o gemau fideo |
---|---|
Cyhoeddwr | Activision Publishing |
Iaith | Almaeneg, Sbaeneg |
Dechrau/Sefydlu | 29 Hydref 2003, 7 Tachwedd 2003 |
Genre | saethwr person-1af, third-person shooter |
Prif bwnc | yr Ail Ryfel Byd |
Gwefan | https://www.callofduty.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Codiwyd y feddalwedd yn wreiddiol ar gyfer Microsoft Windows, ac ehangwyd i lwyfan y consol. Ehangwyd hefyd o ran lleoliad y gemau - gyda'r gemau gwreiddiol yn cymryd lle yn yr Ail Ryfel Byd, a'r gemau diweddaraf wedi'u lleoli yn y dyfodol e.e. Call of Duty 4: Modern Warfare.
Er mai Infinity Ward, Treyarch a Sledgehammer yw'r prif ddatblygwyr mae cwmniau eraill hefyd wedi cynorthwyo, gan gynnwys: Gray Matter Interactive, Nokia, Exakt Entertainment, Spark Unlimited, Amaze Entertainment, n-Space, Aspyr, Rebellion Developments, Ideaworks Game Studio, ac nStigate Games. O ran peiriant, defnyddir id Tech 3, Treyarch NGL a'r IW engine.
Erbyn Chwefror 2016 gwerthodd y gyfres Call of Duty dros 250 miliwn o gopiau ac roedd yr incwm dros 15 biliwn US$.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Call of Duty, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.