Bro-Wened neu Bro-Gwened yw'r enw Llydaweg am rân o Lydaw o gwmpas tref Gwened (mae'r enw'n debyg i Wynedd yn Gymraeg) Mae hefyd yn enw am hen deyrnas ac esgobaeth yn Llydaw, ac un o naw talaith hanesyddol Llydaw (Ffrangeg: Vannetais).
Math | pays de Bretagne |
---|---|
Prifddinas | Gwened |
Poblogaeth | 657,110 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Breizh-Izel |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 5,649 km² |
Cyfesurynnau | 47.655°N 2.7617°W |
Hen deyrnas ac un o esgobaethau traddodiadol Llydaw oedd Broe-Wened. Tywysog Warog a fu brenin cyntaf, a Bro-Ereg yw enw arall Bro-Wened. Ers y 9fed canrif, ar ôl i Nominoe cyfuno gwledydd bach Llydaw, dim ond esgobaeth oedd, a ddaeth i ben yn 1790 pan grewyd rhanbarthau newydd Ffrainc, sef départements yn dilyn y Chwyldro Ffrengig. Tref Gwened oedd prifddinas yr esgobaeth. Mae'r rhan fwyaf yr hen fro yn rhan o département Morbihan (enw ffranceg oddi wrth y llydaweg Mor-Bihan, sef Mor Bychan) erbyn hyn.
Heddiw, Bro-Wened yw'r fro lle siaradir tafodiaith arbennig o'r Llydaweg. Dywedir "gwenedeg" neu "yezh Gwened", iaith Gwened.
Ceir Baneri bro Llydaw eu chwifio yn aml mewn digwyddiadau cyhoeddus ac ar adeiladau cyhoeddus yn nhrefi a phentrefi'r fro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bro-Wened, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.