Mae'r Frân lwyd (Corvus cornix) yn aelod o deulu'r brain.
Brân Lwyd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Corvus |
Rhywogaeth: | C. cornix |
Enw deuenwol | |
Corvus cornix Linnaeus, 1758 |
Hyd yn ddiweddar yr oedd yn cael ei hystyried fel un is-rywogaeth o'r frân dyddyn (Corvus corone) ond yn awr mae'n cael ei hystyried rhywogaeth ar wahân.
Mae'n nythu yng ngogledd a dwyrain Ewrop ac mae ffurfiau tebyg yn ne Ewrop a gorllewin Asia. Yn yr Ynysoedd Prydeinig mae'n nythu yn Iwerddon, Ynys Manaw a gogledd Yr Alban. Mae'n gallu paru gyda'r frân dyddyn a chynhyrchu cywion. Fel y frân dyddyn mae'n medru bwyta bron unrhyw beth, gan gynnwys anifeiliaid wedi marw a wyau adar eraill. Nid yw mor dueddol i nythu mewn coed a'r frân dyddyn, yn aml adeiledir y nyth ar lawr neu ar glogwyni.
Gellir adnabod y frân lwyd yn hawdd gan fod y cyfuniad o ddu a llwyd yn unigryw ymysg y brain. Mae'r pen, gwddf, adenydd a'r gynffon yn ddu a'r corff yn llwyd.
Nid yw'r frân lwyd yn aderyn cyffredin yng Nghymru ond mae yn cael ei gweld yn weddol gyson, yn enwedig yn rhan ogleddol Ynys Môn lle mae parau wedi nythu yn ddiweddar, ac eraill wedi paru gyda brân dyddyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brân lwyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.