Ysgolhaig a bardd Sbaenaidd yn ystod y Dadeni Dysg oedd Beatriz (neu Beatrix) Galindo (Rhagfyr 1465 – 23 Tachwedd 1534) sy'n nodedig am fod yn y fenyw gyntaf yn hanes i gael ei phenodi yn athrawes prifysgol, a hynny ym Mhrifysgol Salamanca.
Beatriz Galindo | |
---|---|
Ffugenw | la Latina |
Ganwyd | Beatriz Galindo Unknown Salamanca |
Bu farw | 23 Tachwedd 1535 Madrid |
Dinasyddiaeth | Coron Castilia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, meddyg, dyneiddiwr y Dadeni |
Cyflogwr |
|
Priod | Francisco Ramírez de Madrid |
Ganwyd yn Salamanca, Coron Castilia. Dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn Lladin dan diwtor, ond roedd ei rhieni yn bwriadu ei danfon i leiandy. Clywodd y Frenhines Isabel am ddoniau'r ferch o Salamanca, a chafodd Beatriz ei galw i'r llys brenhinol i roi gwersi Lladin i'r Dywysoges Juana. Priododd Francisco Ramirez de Madrid ("el Artillero") ym 1491. Bu farw Francisco ym 1501.
Sefydlwyd ysbytyi'r tlawd ym Madrid gan Galindo. Ym Mhrifysgol Salamanca, darlithiodd ar bynciau rhethreg, athroniaeth, a meddygaeth. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ladin a hefyd sylwebaeth ar weithiau Aristoteles.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Beatriz Galindo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.