Cafodd baner Wzbecistan ei chomisiynu'n swyddogol ar 18 Tachwedd 1991.
Mae'r faner yn dangos tri llwybr llorweddol o'r brig i'r gwaelod mewn glas, gwyn a gwyrdd, gydag ymylon coch rhyngddynt a lleuad cilgant a deuddeg seren yn y gornel uchaf ger y mast. Mae Wsbecistan yn gyn-weriniaeth fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd, gyda'i iaith yn perthyn i teulu ieithyddol Twrcaidd yng nghanolbarth Asia.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | glas, gwyn, gwyrdd, coch |
Dechrau/Sefydlu | 18 Tachwedd 1991 |
Genre | horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan liwiau a symbolau'r faner ystyron diwylliannol, gwleidyddol a rhanbarthol.
Ar ôl sefydlu Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd (SSR) yr Wsbeciaid yn 1925 fel rhan o'r Undeb Sofietaidd, defnyddiwyd nifer o faneri coch gydag arysgrif aur o enw'r endid gwleidyddol tan 1952. Roedd yr amrywiad cyntaf a ddefnyddiwyd o 22 Gorffennaf 1925, yn cynnwys arysgrif, talfyriad o weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Usbec, mewn Arabeg a Yr Wyddor Cyrilic.
O 9 Ionawr 1926, disodlwyd yr wyddor Arabeg gyda'r wyddor Yr wyddor Ladin ar ffurf orgraff newydd y Twrceg. O dan yr arysgrif Rwsiaidd, roedd arysgrif wedi'i mewn Tajiceg gan fod cymuned awtonomaidd Tajicistan, ar y pryd, yn rhan o Weriniaeth Wsbecistan.
Ar ôl gwahanu'r SSR Tajicistan ac Wsbec yn 1931, tynnwyd yr arysgrif Tajiceg o'r faner. Ar ôl 1935, gwnaed newidiadau i'r wyddor Lladin Wsbec ac addaswyd y faner yn unol â hynny.
Pan ddechreuodd Wsbec ysgrifennu yr wyddor Gyrilig ym 1940, mabwysiadwyd baner newydd ar 16 Ionawr 1941, a oedd yn cynnwys enwau Wsbec a Rwsieg mewn ysgrifen Cyrilig.
Ar 29 Awst 1952, newidiodd y faner am y tro olaf yn ystod y cyfnod Sofietaidd. Roedd y faner hon yn cynnwys tri streipen llorweddol mewn coch, glas a choch gydag ymylon gwyn rhyngddynt. Yn y gornel darian roedd morthwyl a chryman a seren goch. Nid oes gan gefn y faner hon unrhyw arwyddion.
Ar 1 Medi 1991, datganodd Uzbekistan ei hun yn annibynnol tua thri mis cyn diddymu'r Undeb Sofietaidd. Dechreuodd chwilio am faner genedlaethol newydd gyda chystadleuaeth i benderfynu ar y dyluniad newydd. Derbyniwyd mwy na 200 o geisiadau a lluniwyd comisiwn i werthuso'r cynigion. Derbyniwyd y cynllun buddugol ar 18 Tachwedd 1991 ar ôl cael ei ddewis mewn sesiwn anghyffredin o'r Uwch Sofiet Undeb Wzbecistan. Wsbecistan oedd y weriniaeth gyntaf o'r gweriniaethau annibynnol newydd yng Nghanolbarth Asia i ddewis baner newydd.
Gellir gweld adlais o hen faner Sofietaidd Wsbecistan yn y dyluniad o faner gyda tair haen iddi a hefyd ffin denau naill ochr i'r haen neu fand canol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Wsbecistan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.