Corff cyhoeddus yw Awdurdod Cyllid Cymru (Saesneg: Welsh Revenue Authority), sy'n gyfrifol am gasglu trethi datganoledig Cymru.
Sefydlwyd y pwerau ar gyfer creu trefniant i gasglu trethi datganoledig yn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Dyfed Alsop, Prif Weithredwr | |
Gorolwg Adran llywodraeth anweinidogol | |
---|---|
Ffurfiwyd | 1 Hydref 2017 |
Awdurdodaeth | Cymru |
Gweithwyr | 80 (2022) |
Gweinidog cyfrifol |
|
Swyddogion Adran llywodraeth anweinidogol |
|
Dogfen allweddol |
|
Gwefan | llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru |
Mae gan y corff swyddfeydd ym Mhar Busnes Rhydycar (Merthyr Tufdul) ac adeilad Parc Cathays 2 (Caerdydd). Cafodd aelodau bwrdd yr awdurdod eu penodi yn Haf 2017 a cyfarfu'r awdurdod am y tro cyntaf ar 18 Hydref 2017. Daeth yr awdurdod yn gwbl weithredol yn Ebrill 2018, ac o'r dyddiad hwn roedd Cymru'n casglu peth o'i threthi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd. Mae'r corff yn gyfrifol am gasglu Treth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a threth incwm (Cyfradd Treth Incwm Cymru (CTIC)) ers 2019.
Penodwyd Kathryn Bishop yn gadeirydd gyntaf yr awdurdod ar 20 Chwefror 2017 yn dilyn pleidlais gan Bwyllgor y Cynulliad, y tro cyntaf i wrandawiad gael ei gynnal cyn penodiad Gweinidogol. Penodwyd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, fel is-gadeirydd yn Medi 2018.
Yn ogystal â chasglu trethi, mae'r Awdurdod yn gwneud y canlynol:
Mae Deddfau Cymru 2014 a 2017 yn datganoli y trethi canlynol i'r Cynulliad Cenedlaethol:
Y ddeddfwriaeth perthnasol sy'n llywodraeth Awdurdod Cyllid Cymru a trethi Cymru yw:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Awdurdod Cyllid Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.