Corff bychan yn y gofod yw asteroid sydd i'w cael fel rheol yn y prif wregys asteroidau rhwng y planedau Mawrth ac Iau.
Credir bod yr asteroidau hyn yn olion planed a wnaeth fethu ffurfio yn nyddiau cynnar Cysawd yr Haul oherywdd dylanwad disgyrchiant Iau. Fel rheol, diffinnir corff bychan fel comed (seren gynffon) os ydyw'n dangos coma o nwy a rhew; os dim, diffinnir y corff fel asteroid.
Enghraifft o'r canlynol | math o wrthrych seryddol |
---|---|
Math | minor planet, corff neu wrthrych bychan yng Nghysawd yr Haul |
Rhan o | gravitationally bound system |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd yr asteroid cyntaf, Ceres, ei darganfod yn 1801 gan Giuseppe Piazzi (erbyn hyn mae Ceres wedi cael ei ail-gatagoreiddio fel planed gorrach), ac ers hynny mae mwy na 200,000 wedi cael eu darganfod. Mae seryddwyr yn ystyried y gwaith o ddarganfod asteroidau i fod yn hynod o bwysig, achos y posibilrwydd y gall asteroid drawo'r Ddaear yn y dyfodol. Er mwyn darganfod mwy amdanynt, mae sawl chwiliedydd gofod NASA wedi ymweld ag asteroidau yn yr ugain mlynedd diwethaf, gan gynnwys Galileo (a wnaeth ymweld â 951 Gaspra a 243 Ida), NEAR (a wnaeth ymweld â 253 Mathilde a 433 Eros), ac eraill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Asteroid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.