Seryddwr amatur Cymreig oedd Kenneth Glyn Jones (13 Tachwedd 1915 – 26 Gorffennaf 1995).
Enwyd asteroid ar ei ôl.
Kenneth Glyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 1915 Tredegar |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | seryddwr |
Adnabyddus am | 5861 Glynjones |
Un o Dredegar oedd Jones. Ymunodd â'r RAF yn 1938 a thrwy'r Ail Ryfel Byd fel fforiwr ('navigator') ar un o'r awyrennau bomio. Ymunodd â BOAC yn 1964 gan ddod yn hyfforddwr technegol a oedd yn arbenigo mewn fforio-seryddol ('astro-navigation') a pherfformiad awyrennau. Ymddeolodd o gwmni British Airways yn 1974.
Cafodd ei ethol yn gymrawd y Gymdeithas Seryddol Brenhinol ar 14 Chwefror 1969.
Darganfu lawer o sêr newydd yng Ngalaeth Andromeda ac o'r herwydd fe'i anrhydeddwyd gan y gymuned seryddol ryngwladol drwy alw asteroid (5861) ar ei ôl: 5861 Glynjones.
Bu farw o drawiad i'r galon yn ei gartref yn Berkshire yn 79 oed ar 26 Gorffennaf 1995.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kenneth Glyn Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.