Tref a chymuned yng ngogledd Ffrainc sy'n brifddinas weinyddol département Pas-de-Calais yw Arras (Iseldireg: Atrecht).
Sonir am Aras yng ngwaith Guto'r Glyn. Er ei bod yn ganolfan hanesyddol hen ranbarth Artois, siaredir tafodiaith Picard yno. Yn wahanol i'r rheol gyffredin yn Ffrangeg, yngenir yr "s" derfynol.
Math | cymuned, tref/dinas |
---|---|
Poblogaeth | 42,600 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pas-de-Calais, arrondissement of Arras, Communauté urbaine d'Arras |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 11.63 km² |
Uwch y môr | 72 metr |
Yn ffinio gyda | Saint-Laurent-Blangy, Achicourt, Sainte-Catherine, Saint-Nicolas, Tilloy-lès-Mofflaines, Anzin-Saint-Aubin, Beaurains, Dainville, Duisans |
Cyfesurynnau | 50.2892°N 2.78°E |
Cod post | 62000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Arras |
Sefydlwyd Arras gan llwyth Celtaidd yr Atrebates ac yn nes ymlaen daeth yn dref garsiwn Rufeinig dan yr enw Atrebatum. Fe'i lleolir yn Artois, a fu yn dalaith o'r Iseldiroedd am gyfnod. Am ganrifoedd ymladdai Ffrainc a'r Iseldiroedd dros ei meddiant a newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn dod yn rhan o Ffrainc ar ddiwedd yr 17g. Roedd Arras yn dwyn cysylltiad â masnach Fflandrys a daeth yn enwog erbyn diwedd yr Oesoedd Canol am ei brodwaith gwlân arbennig a allforid ledled Ewrop. Defnyddir y term arras o hyd am frodweithiau o safon uchel.
Arwyddwyd cytundeb Undeb Atrecht (Undeb Arras) yma yn Ionawr 1579. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Arras yn gorwedd yn agos i'r ffrynt ac ymladdwyd Brwydr Arras yno ac yn y cyffiniau. Dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad. Yn yr Ail Ryfel Byd yn ystod Goresgyniad Ffrainc (Mai 1940), ymladdwyd frwydr fawr arall yno.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arras, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.