Llwyth Celtaidd a drigai yng ngogledd Gâl oedd yr Atrebates.
Roedd ganddynt diriogaeth yn ardal Artois (gogledd Ffrainc). Daw'r enw o'r gair Galeg tybiedig *Ad-trebates, yn ôl pob tebyg, sy'n golygu "ymsefydlwyr". Rhywbryd yn y ganrif 1af CC ymsefydlodd nifer o'r Atrebates yn ne-orllewin Prydain.
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol, llwyth |
---|---|
Math | Y Galiaid |
Rhan o | Belgae, Y Galiaid, Brythoniaid |
Prifddinas y llwyth yng Ngâl oedd Nemetacum. Pan oresgynwyd yr Atrebates gan luoedd Rhufeinig Iwl Cesar yn OC 57, sefydlwyd tref garsiwn a chanolfan weinyddol Atrebatum, sy'n dwyn eu henw, ar safle tref hanesyddol Arras (département Pas-de-Calais).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Atrebates, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.