Pobl hynafol oedd y Belgae (Lladin am 'y Belgiaid') a breswyliai'r ardal rhwng afonydd Marne, Seine a Rhein ac arfordir Môr y Gogledd.
Roeddyn nhw naill ai'n Geltaidd neu'n rhannol Geltaidd a rhannol Almaenig o ran eu tras. I Iŵl Cesar, yn ei lyfr De Bello Gallica (2,3-4), roedd yr enw yn cynnwys llwythau'r Ambiani, Atrebates, Atuatuci, Bellovaci, Caerosi, Caemani, Caleti, Condrusi, Eburones, Menapii, Morini, Nervii, Remi, Suessiones, Veliocasses a'r Viromandui. Ar ôl i Iŵl Cesar eu goresgyn daeth y rhan bwysicaf o'i hen diriogaeth yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Belgica yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Augustus gyda sedd y llywodraethwr yn Durocortorum (Rheims heddiw). Croesodd nifer o'r Belgae dros Fôr Udd i dde Prydain ac ymsefydlu yno.
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Math | Y Galiaid, Germaniaid |
Rhan o | Y Galiaid, Germaniaid |
Lleoliad | Marne, Seine |
Gwladwriaeth | Gâl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Belgae, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.