Newyddiadurwraig Americanaidd ac awdures yw Amy Goodman (ganwyd 13 Ebrill 1957).
Hi yw gwesteiwraig Democracy Now!, rhaglen newyddion byd-eang annibynnol a ddarlledir yn ddyddiol ar y radio, y teledu a'r rhyngrwyd.
Amy Goodman | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1957 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | colofnydd, cynhyrchydd radio, investigative journalist, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr |
Adnabyddus am | Democracy Now!, Access of Evil, The Exception to the Rulers, Static: Government Liars, Media Cheerleaders, and the People who Fight Back, Standing up to the Madness: Ordinary Heroes in Extraordinary Times, Breaking the Sound Barrier, The Silenced Majority: Stories of Uprisings, Occupations, Resistance, and Hope, One Bright Shining Moment: The Forgotten Summer of George McGovern, Democracy Now!: Twenty Years Covering the Movements Changing America |
Gwobr/au | Gwobr Orwell, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr George Polk, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr EFF, Gwobr Thomas Merton, Gwobr Hall of Fame I. F. Stone, Joe A. Callaway Award for Civic Courage |
Ganwyd Goodman yn Bay Shore (Efrog Newydd) ar 13 Ebrill 1957 i George, offthalmolegydd, a Dorothy (gynt Bock) Goodman. Magwyd mewn cartref Iddewig, ac roedd ei thaid o ochr ei mam yn Rabbi Uniongred. Graddiodd o Bay Shore High School yn 1975, ac o Radcliffe College yn 1984 gyda gradd mewn anthropoleg. Treuliodd Goodman flwyddyn yn y College of the Atlantic yn Bar Harbor (Maine).
Roedd Goodman wedi bod yn gyfarwyddwraig (director) gorsaf Pacifica Radio WBAI yn Ninas Efrog Newydd am fwy na degawd pan gyd-sefydlodd Democracy Now! The War and Peace Report yn 1996.
Yn 2001, tynnwyd y rhaglen oddi ar yr awyr, oherwydd croesdynnu rhwng grŵp o aelodau bwrdd Pacifica Radio ac aelodau staff a gwrandawyr. Yn ystod yr adeg honno, symudwyd Democracy Now! i orsaf dân, o ble y darlledodd hyd at y 13 Tachwedd 2009. Lleolir stiwdio newydd y rhaglen yng ymyl Chelsea ym Manhattan.
Mae Goodman yn credydu (credit) llwyddiant Democracy Now! i sefydliadau'r cyfryngau prif ffrwd sy'n gadael "bwlch anferth" i'r rhaglen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Amy Goodman, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.